11/01/2010
Arddangosfa yn olrhain esblygiad pync
Bydd arddangosfa gelf newydd ym Mangor yn olrhain esblygiad cerddoriaeth pync ers 1976.

Fe fydd “Punk Am Byth” yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor yn dangos casgliad preifat Geirion Jones o ddelweddau artistiaid megis Jamie Reid, Jimmy Cauty, Billy Childish ac eraill.

Mae’r artist a’r anarchydd Jamie Reid yn enwog am ei gynlluniau ar gyfer cloriau recordiau “God Save the Queen” a “Never Mind the B****cks” gan y Sex Pistols.

Roedd Jimmy Cauty yn un o gyd-sylfaenwyr y grŵp cerddorol y KLF gyda Bill Drummond a Billy Childish yn ffigwr cwlt gyda dilyniant yn America, Ewrop a Siapan.

Mae Geirion Jones, sy’n cael ei adnabod fel ‘Wacky’, wedi byw a bod pync o 1976 hyd heddiw ac Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yw’r ganolfan gelf gyntaf i arddangos ei gasgliad.


'Cyfle unigryw'

“Mae’r arddangosfa yn gyfle unigryw i weld casgliad preifat o bosteri, peintiadau a delweddau poblogaidd sy’n ystyried materion diwylliannol hynod bwysig yn ein hanes modern,” meddai Esther Roberts, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.

Fe fydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys posteri sy’n dangos “The Sex Pistols”, “The Clash”, “Killing Joke”, “The Damned” a Siouxsie.


Gadael yr Ugeinfed Ganrif

Hefyd, yn Oriel 2 Amgueddfa ac Oriel Gwynedd fe fydd arddangosfa arall yn cael ei harddangos sef Gadael yr Ugeinfed Ganrif.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys set o ffotograffau o flynyddoedd olaf y mileniwm diwethaf gan Peter Telfer, sy’n cynnwys delweddau o grwpiau o’r sin roc Gymraeg ynghyd â digwyddiadau byd eang eraill.

Mae mynediad i’r Amgueddfa am ddim.


Anfon at ffrind