Fe enillodd y gantores Beyoncé fwy o wobrau Grammy na’r un fenyw erioed o’r blaen.
Fe lwyddodd yr artist R & B i gipio chwe gwobr mewn un noson neithiwr ar ôl cael ei henwebu mewn deg categori gwahanol.
Roedd ei gwobrau’n cynnwys y gân R & B orau a’r albym R&B gorau, ond fe fethodd hi ag ennill categori’r albym gorau oll. Y band, Kings of Leon, a gafodd honno gyda’u record Use Somebody.
Roedd yna bedair gwobr hefyd i’r gantores wlad Taylor Swift - un o’r enillwyr ieuenga’ erioed – a gwobr oes i Michael Jackson a fu farw y llynedd.
Ond, yn ogystal â’r gerddoriaeth, roedd yna sylw i’r ddwy gantores ddramatig, Pink a Lady Gaga. Fe gafodd y ddwy wobrau a llawer o sylw am ganu mewn dillad lle’r oedd croen yn amlycach na defnydd.
Llun: Beyonce (AP Photo)
Anfon at ffrind