Mae gan dri artist o Gymru gyfle i ennill yng ngwobrau cerddoriaeth bop y Brits.
Ond dim ond un ohonyn nhw – y band Marina and the Diamonds – sy’n cystadlu gyda gwaith newydd.
Mae’r hanner-Groeges hanner Cymraes o’r Fenni wedi ei henwebu yng nghategori ‘Dewis y Beirniaid’ – yn ôl llawer, mae ar y ffordd i fod yn un o enwau mawr y dyfodol.
Mae’r ddau enwebiad arall yn y categorïau arbennig i ddathlu bod Gwobrau’r Brits yn dathlu eu pen-blwydd yn 30 oed.
Duffy a Tom
Y rhain yw’r gwobrau pop mwya’ masnachol yng ngwledydd Prydain, yn cydnabod yr artistiaid sy’n gwerthu orau.
Albwm y Gymraes Gymraeg Duffy o Nefyn yw un o’r rhai sydd yn y ras am deitl albwm gorau’r 30 mlynedd. Roedd Rockferry wedi ennill gwobr Brits iddi yn 2009.
Mae’r hen stejar, Tom Jones, hefyd wedi cael ei enwebu yng nghategori Perfformiad Gorau’r 30 mlynedd, ar y cyd gyda Robbie Williams.
• Mae gan ddwy arall o’r enillwyr posib gysylltiadau Cymreig – Lilly Allen sydd wedi cael ei henwebu mewn tri chategori a Kylie Minogue, am un o ganeuon gorau’r tri degawd.
Anfon at ffrind