04/03/2010
Cymro oedd y Caretaker
Mae’r newyddiadurwr, Lyn Ebenezer, wedi dod o hyd i dystiolaeth newydd sy’n awgrymu’n gryf mai Cymro oedd y gofalwr yn nrama Harold Pinter, The Caretaker.

Wrth i’r Cwmni Theatr Cenedlaethol deithio o amgylch Cymru gydag addasiad Cymraeg o’r ddrama, mae’r llenor o Bonrhydfendigaid yn dweud mai dyn o’r enw John Ivor Golding oedd ffynhonnell y cymeriad.

Mae’r canwr Eric Clapton, sy’n hoff iawn o’r ddrama, wedi dweud yr un peth yn ei hunangofiant. Ac roedd y ddau wedi cael yr wybodaeth o’r un man – gan gymeriad “lliwgar” o’r enw David Litvinoff.

Roedd hwnnw wedi dianc i Landdewi Brefi ger Tregaron o Lundain yn yr 1960au ac wedi denu llawer o sêr y byd pop yno – gan gynnwys y Rolling Stones.

Litvinoff fu’n gyfrifol am hybu Golding drwy ei gyflwyno i Cammell, Jagger a Clapton, meddai Lyn Ebenezer sy’n dyfynnu disgrifiad yr awdur Iain Sinclair o Golding ...

“A mad-eyed vagrant, a Welsh Neo-Romantic, storm-and-blood booze-hound. A sentimental anti-Semite who treasured every slight, every missed appointment, every run-in with the Old Bill.”

Y stori’n llawn yn Golwg, Mawrth 4.






Anfon at ffrind