04/03/2010
Gwyliwch y gwleidyddion meddai Bobi Jones
Mae un o sylfaenwyr yr Academi Gymreig wedi ei rhybuddio hi i fod yn ofalus rhag mynd dan bawen y gwleidyddion.

Wrth gael ei wneud yn Llywydd Anrhydeddus yr Academi, mae’r ysgolhaig a’r bardd Bobi Jones yn rhybuddio bod grantiau wedi “gwladoli” llenyddiaeth yng Nghymru.

“Dw i o blaid y datblygiadau, ond yr hyn rwy’n ei ddweud yw bod raid i ni fod yn wyliadwrus o wladoli’r peth,” meddai Bobi Jones.

“Mae llenyddiaeth Gymraeg wedi cael ei wladoli oherwydd grantiau, ac mae hynny’n siapio ein llenyddiaeth.

“Mae nawdd gan wleidyddion yn dibynnu ar bleidleisiau. Dydyn nhw ddim yn arbenigwyr, ond â diddordeb ysgafn mewn llenyddiaeth.”

Fe fydd Bobi Jones yn cael ei wneud yn Llywydd Anrhydeddus adeg cinio i ddathlu pen-blwydd yr Academi yn 50 oed. Ef a’r bardd Waldo Williams oedd dau o’r sylfaenwyr.

Y stori’n llawn yn Golwg yr wythnos yma.





Anfon at ffrind