Gyrwyr ceir sy’n achosi 95% o ddamweiniau ar groesfannau trenau yng ngwledydd Prydain – a dyna pam fod pennaeth y cwmni sy’n gofalu am y rheilffyrdd eisiau gweld y prawf gyrru’n cynnwys cwestiynau am drenau.
Yn ôl Ian Coucher, Prif Weithredwr Network Rail, mae gyrwyr yn peryglu eu bywydau eu hunain a’r rheiny sy’n teithio ar drenau, trwy gymryd risgiau anwybodus.
Heddiw, mae Network Rail wedi cyhoeddi ystadegau am ddamweiniau a digwyddiadau ar groesfannau yn ystod 2009.
Y ffeithiau
• 3,242 o achosion o gamddefnydd neu gamgymeriadau wedi’u cofnodi
• fe fu 14 gwrthdrawiad rhwng cerbydau a threnau
• fe gofnodwyd 13 marwolaeth ar groesfannau
• 140 o achosion a ddaeth yn agos at wrthdrawiad - bron i dri bob wythnos
“Mae modurwyr yn rhy aml yn cymryd gambl yn erbyn trenau 200 tunnell,” meddai Iain Coucher.
“Yn anffodus mae modurwyr yn colli eu bywydau trwy gamblo ar y croesfannau gwastad. Maen nhw’n anwybyddu goleuadau coch neu’n gyrru o gwmpas rhwystrau.”
Prawf i achub bywydau
Mae Network Rail yn credu byddai cynnwys cwestiynau ynglyn â chroesfannau trenau yn y prawf gyrru yn achub bywydau.
Ac mae Pennaeth Diogelwch Ffyrdd cymdeithas foduro yr AA, yn cytuno.
“Mae croesfannau gwastad yn un o’r llefydd ble gallai ymddygiad anghyfrifol unigolyn effeithio ar ddiogelwch nifer fawr o bobol,” meddai Andrew Hore.
“Mae’n rhaid i fodurwyr fod yn ymwybodol o’r rheolau syml a rhesymegol.”
Anfon at ffrind