10/03/2010
Cyllideb mewn pythefnos
Mae Gordon Brown wedi cadarnhau y bydd y Gyllideb yn cael ei chyhoeddi ar Fawrth 24.

Oherwydd hynny, mae sylwebwyr gwleidyddol bellach yn sicr y bydd yn galw etholiad cyffredinol ar Fai 6.

Fe fyddai cynnal pleidlais ar y dyddiad hwnnw, i gyd-fynd ag etholiadau lleol yn Lloegr, yn help i arbed arian ac yn hwb i’r Blaid Lafur wrth drio denu cefnogwyr allan i bleidleisio.

“Wrth ystyried y seddau Llafur hynny lle maen nhw’n ceisio clirio eu henwau ar ôl y sgandal treuliau, mae angen cymaint o bleidleisiau â phosib ar Lafur,” meddai Andrew Hawkins, cadeirydd gweithredol ComRes, y sefydliad ymchwil ac arolygon barn.

“Y ffordd orau i wneud hynny fyddai i gyd-daro â dyddiad yr etholiadau lleol. Dw i wedi cadarnhau fy ystafell mewn gwesty yng nghanol Llundain ar 6 Mai,” ychwanegodd.


‘Cymeriad i arwain’

Mae Gordon Brown heddiw hefyd wedi dweud bod ganddo ef y “cymeriad” i arwain gwledydd Prydain trwy adferiad economaidd.

Yn ei araith yn Llundain y bore yma, fe rybuddiodd y Prif Weinidog y gallai cynlluniau’r Ceidwadwyr i dorri’n ôl ar wariant, fwrw’r economi yn ôl i ddirwasgiad.

“Mae hi i fyny i bobol eraill benderfynu, ond dw i’n credu bod angen cymeriad sydd ddim am ddweud wrth bobol beth maen nhw eisiau ei glywed, ond yr hyn maen nhw angen ei wybod.”

Mae ei lywodraeth, meddai, yn dal i fwriadu haneru dyled Prydain o £178bn o fewn pedair blynedd.


Rhewi cyflogau gweision suful

Fydd uwch-weision suful, penaethiaid y fyddin, barnwyr, ymgynghorwyr, meddygon, deintyddion na rheolwyr y gwasanaeth iechyd ddim yn cael codiad yn eu cyflog am y blynyddoedd nesaf.

Yn ôl Gordon Brown, fe fydd rhewi cyflogau yn y sector cyhoeddus yn arbed £3bn erbyn 2013-14.

Er bod y gwaethaf o’r dirwasgiad heibio, meddai, fe gyfaddefodd fod yr economi’n para i fod yn fregus ac fe allai gael ei thanseilio pe bai toriadau mewn gwariant yn cael eu gweithredu’n rhy gyflym.


Anfon at ffrind