18/12/2009
Eisiau’r hawl i fynnu arwyddion dwyieithog
Mae’r AC Nerys Evans yn galw am newid rheolau cynllunio i sicrhau bod rhaid i gwmnïau preifat godi arwyddion dwyieithog.

Fe fyddai’n golygu bod cynghorau lleol yn gallu gwneud hynny’n amod ar gael caniatâd.

Roedd hi’n ymateb i gais gan gynghorydd Plaid Cymru yn Sir Gâr ar ôl i gwmni yng Nghaerfyrddin wrthod cais am iddo godi arwyddion dwyeithog,

“Mae angen gwneud mwy i sicrhau fod cwmnïau preifat yn dilyn esiampl y sector cyhoeddus ac yn codi arwyddion dwyieithog”, meddai’r Cynghorydd Arwel Lloyd.

“Mae hyn yn dangos diffyg parch a diffyg dealltwriaeth o natur y wlad y maen nhw’n gweithredu ynddi. Mae Cymru’n wlad ddwyieithog ac, yn y sir hon, mae’r mwyafrif yn medru’r Gymraeg”

“Mae’n gwbl annerbyniol fod cwmni mawr yn cael anwybyddu’r ffaith honno,” meddai.

Cwmni’n gwrthod

Yn ôl Arwel Lloyd, roedd Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin wedi sgrifennu at un cwmni yn ei annog i godi arwyddion dwyieithog ond roedd hwnnw wedi gwrthod.

Ateb y cwmni oedd bod ei holl arwyddion yn y Deyrnas Unedig yn cael eu gwneud yn ganolog, ac nad oedd y cwmni’n barod i godi arwyddion gwahanol yng Nghymru.

Fe ddaeth hi’n glir nad oedd y rheoliadau cynllunio yn caniatáu i gyngor fel Shir Gâr fynnu arwyddion dwyieithog.

Hawliau i awdurdodau lleol

“Byddaf yn gofyn am newid y rheoliadau hyn. Mae hyn yn gam bach, ond mae’n rhoi statws a phresenoldeb i’n hiaith”, meddai Nerys Evans. AC tros Orllewin a Chanolbarth Cymru.

“Ac wrth wneud arwyddion yn ddwyieithog pan fyddan nhw’n cael eu codi, mae’r gost ychwanegol yn fach iawn”

Mae’r syniad wedi’i gefnogi’n gryf hefyd gan ddarpar ymgeisydd seneddol y Blaid yng Ngorllewin Caerfyrddin a Phenfro, John Dixon.

“Mae llawer o’r cwmnïoedd mawr sy’n gweithredu yng Nghymru hefyd yn gweithredu mewn nifer o wledydd eraill, ac ym mhob achos, maen nhw’n addasu eu harwyddion i gynnwys yr iaith leol. Does dim cyfiawnhad tros drin Cymru a’r Gymraeg yn wahanol.”


Anfon at ffrind