Mae Cymry Cymraeg yn fwy tebygol o fod yn grefyddol na’r Cymry di-Gymraeg, yn ôl arolwg a gafodd ei gomisiynu gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Yn ôl yr arolwg, mae pobl sy’n rhugl yn y Gymraeg ddwywaith mwy tebygol o fynychu gwasanaeth eglwys yn rheolaidd na phobl sydd ddim yn siarad yr iaith.
Holwyd 1,009 o oedolion ar draws Cymru gan gwmni Beaufort Research ym mis Mehefin eleni.
Ystadegau
• Roedd 26% o’r Cymry Cymraeg rhugl a holwyd yn mynd i’r capel neu’r eglwys unwaith y mis neu’n amlach, o’i gymharu â’r 13% o’r Cymry di-Gymraeg.
• Roedd 61% o’r Cymry Cymraeg rhugl yn cytuno fod crefydd yn berthnasol iddyn nhw, o’i gymharu â 43% o’r Cymry di-Gymraeg.
• Roedd 78% o’r Cymry Cymraeg rhugl a holwyd yn cytuno y gall Cristnogaeth chwarae rhan yn eu cymuned, o’i gymharu â 67% o’r Cymry di-Gymraeg.
Gwahaniaeth rhwng ardaloedd
• Roedd 21% o ogleddwyr Cymru ac 20% o bobl sy’n byw yn y canolbarth a’r gorllewin yn mynd i wasanaeth eglwys unwaith y mis neu’n amlach. 9% oedd y ffigwr cyfatebol yn y Cymoedd.
• Gogleddwyr oedd y bobl fwyaf cadarnhaol ynglŷn â dyfodol yr eglwys: dim ond 17% o drigolion yr ardal yma oedd yn cytuno’n gryf â’r datganiad ‘mae Cristnogaeth yn grefydd sy’n marw’. 20% oedd y ffigwr ar draws Cymru.
Arall
• Dywedodd 35% o bobl 16-34 mlwydd oed a 65% o bobl 55 oed neu’n hŷn eu bod yn cytuno â’r datganiad ‘mae crefydd yn berthnasol i mi’.
• Roedd 76% yn cytuno â’r farn nad oedd gan bobol ifanc ddiddordeb mewn crefydd.
‘Lledaenu’r Newyddion Da’
Dywedodd y Parchedig Gwenda Richards, Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru a gweinidog Capel Seilo, Caernarfon ei bod hi’n “dda gweld agwedd fwy cadarnhaol tuag at grefydd a Christnogaeth ymysg Cymry Cymraeg”.
“Gobeithio bydd eglwysi yn cael eu calonogi wrth weld fod yna ewyllys da tuag atynt ymysg y bobl yma ac y byddant yn parhau i weithio o fewn eu cymunedau i ledaenu’r Newyddion Da a’u gwneud yn llefydd gwell i fyw,” meddai.
Ond rhybudd
“Ond hyd yn oed ymysg Cymry Cymraeg” aeth ymlaen i ddweud, “mae rhai o’r ystadegau’n frawychus”.
Mae’r ystadegau yn herio’r eglwys i ymateb yn “greadigol yn ei chenhadaeth”, ac i ddangos “perthnasedd y ffydd” meddai.
“Mae’r ymchwil yn bwysig a dadlennol - mae’n adlewyrchu’r hyn y bu amryw yn ei amau am sefyllfa’r eglwys mewn cymdeithas ôl-ddiwydiannol sy’n ymddangos fel petai’n prysur ddatblygu’n gymdeithas ôl-Gristnogol, lle y mae crefydd yn cael ei ystyried yn berthnasol o hyd, ond yr ymlyniad a’r ymarfer o safbwynt addoliad yn brin.
“Y mae’r fath ymchwil yn galw am ymateb diwinyddol ac ymarferol a bydd yr eglwys yn ystod y misoedd nesaf yn rhoi ystyriaeth fanwl i hyn.”
Anfon at ffrind