08/02/2010
Enwi corff Penarth
Mae Heddlu Gwent wedi enwi’r ferch y daethpwyd o hyd i’w chorff yn y dwr ger Penarth ar Chwefror 3. Roedd Gemma Garn o Gwmbrân wedi bod ar goll ers dros ddau fis.

Roedd llygad dyst wedi dweud ei fod wedi gweld rhywun tebyg i Gemma Garn yn cerdded yng nghyffiniau’r bont am chwarter i saith y bore, ar y dydd Sadwrn cyn y Nadolig, ac roedd yr heddlu’n sicr bod ei char wedi cyrraedd y bont tuag awr cyn hynny.


Llonydd i alaru

Mae’r Heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw’n parhau i weithio’n agos â theulu Gemma Garn.

Yn y cyfamser, mae’r teulu wedi dweud ei bod nhw eisiau dymuno llonydd i alaru’n breifat.












Anfon at ffrind