09/02/2010
Penderfynu ar fanylion achos Lynette White
Fe fydd 15 o bobol yn cael clywed heddiw ble y byddan nhw’n wynebu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder yn achos llofruddiaeth Lynette White.

Fe gafodd tri dyn eu carcharu ar gam am lofruddio’r ferch ifanc yn ardal y Dociau yng Nghaerdydd yn 1988.

Mae 12 o’r 15 yn blismyn – tri yn dal i weithio gyda’r heddlu a naw wedi ymddeol. Sifiliaid yw’r tri arall.

Fe fydd y barnwr, Mr Ustus Sweeney, yn cynnal gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe heddiw i benderfynu ble y bydd yr achos.

Y pymtheg

Dyma enwau’r 15: Graham Mouncher, Richard Powell, Thomas Page, Michael Daniels, John Gillard, Paul Jennings, Paul Stephen, Peter Greenwood, John Seaford, Wayne Pugh, John Murray, Rachel O'Brien, Stephen Hicks, Violet Perriam and Ian Massey.

Mae Graham Mouncher, Violet Perriam ac Ian Massey hefyd yn wynebu dau gyhuddiad pellach o dyngu anudon, neu ddweud celwydd o dan lw.

Y cefndir

Yn 1990 y cafodd tri dyn eu dedfrydu i garchar am oes am lofruddio’r ferch 20 oed oedd yn weithrwraig rhyw yng Nghaerdydd. Roedd hi wedi cael ei thrywanu 50 o weithiau.

Ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar ôl ymgyrch tros ‘Dri Caerdydd’, fe gafodd Stephen Miller, Yusef Abdullahi ac Anthony Paris eu rhyddhau.

Yn 2003, fe gafwyd swyddog diogelwch o Lanharan ger Pen-y-bont ar Ogwr, Jeffrey Gafoor, yn euog o’r llofruddiaeth a’i garcharu am oes.

Ym marn llawer, achos Lynette White yw’r achos gwaetha’ o anghyfiawnder yn hanes Cymru.

Llun: Lynette White - fe gafodd ei thrywanu 50 o weithiau

Anfon at ffrind