10/03/2010
Disgwyl cyhoeddiad am ddyddiad y Gyllideb
Fe fydd dyddiad y Gyllideb yn cael ei gyhoeddi heddiw, wrth i’r Prif Weinidog roi araith bwysig am yr economi.

Ac mae Gordon Brown yn wynebu rhagor o newyddion drwg, gyda chwymp mawr men allforion a phryder tros allu’r Llywodraeth i dalu eu dyledion.

Y disgwyl yw y bydd y Canghellor Alistair Darling yn cyhoeddi mai 24 Mawrth fydd dyddiad y Gyllideb. Os felly, mae’n debygol iawn mai 6 Mai fydd dyddiad yr Etholiad Cyffredinol.

‘Dod trwy’r storm’

Fe fydd y Prif Weinidog yn gobeithio am well newyddion economaidd erbyn hynny ond, heddiw, fe fydd yn pwysleisio nad oes unrhyw fwriad i newid cyfeiriad.

Fe fydd yn dweud wrth gynulleidfa yn adeilad Thomson Reuters yn Llundain, bod angen dangos yr un agwedd yn awr ag ynghanol yr argyfwng ariannol.

“Ryden ni’n dod trwy’r storm, nid dyma’r amser i droi’n ôl,” fydd un o’r dyfyniadau allweddol.

‘Ara’n talu’

Ond mae’r pwysau i ddechrau torri ar wario a lleihau dyled y Llywodraeth yn cryfhau wrth i’r asiantaeth gredyd, Fitch, godi amheuon am statws credyd gwledydd Prydain.

Gyda’r Llywodraeth ar hyn o bryd yn dal statws AAA, fe ddywedodd un o benaethiaid yr asiantaeth, Brian Coulson, bod y Llywodraeth yn ara’n talu’r dyledion.

Pe bai statws credyd gwledydd Prydain yn cael ei ostwng, fe allai arwain at gyfraddau llog uwch a pheryg o chwyddiant.

Dyw’r sefyllfa ddim wedi gwella chwaith o ran allforion a mewnforion – roedd yna gwymp o 6.9% mewn allforion ym mis Ionawr a chwymp o ddim ond 1.6% mewn mewnforion. Y cwymp mewn gwerthu nwyddau dramor oedd y mwya’ ers tair blynedd.


Llun: Alistair Darling - disgwyl cyhoeddiad heddiw

Anfon at ffrind