Mae grŵp o ymgyrchwyr yn rhybuddio y gallai’r Etholiad Cyffredinol nesa’ fod yn erbyn y gyfraith – os na fydd carcharorion yn cael yr hawl i bleidleisio.
Gwledydd Prydain yw un o’r ychydig wledydd mawr yn Ewrop lle mae carcharorion wedi eu gwahardd yn llwyr rhag pleidleisio o dan ddeddf sydd yn ei lle ers tua 140 o flynyddoedd.
Yn ôl ymgyrch o’r enw ‘Barred from Voting’ sy’n dod dan adain yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai a mudiad diwygio UNLOCK, mae gwaharddiad o’r fath yn mynd yn groes i’r Confensiwn ar Hawliau Dynol.
Mae’r grŵp sy’n cynnwys gwleidyddion, clerigwyr, diwygwyr a chyn garcharorion, yn galw am weithredu ar unwaith i newid pethau, naill ai trwy ychwanegu gwelliant at fesur sy’n mynd trwy’r Senedd ar hyn o bryd, neu trwy orchymyn arbennig.
Achos Llys
Yn 2004, fe lwyddodd carcharor i ennill achos gerbron Llys Iawnderau Dynol Ewrop yn herio’r gwaharddiad ond, ers hynny, dyw’r Llywodraeth ddim wedi gweithredu.
Ym mis Rhagfyr, fe rybuddiodd Cyngor Ewrop bod y llusgo traed gan y Llywodraeth yn golygu y gallai’r etholiad fod yn groes i’r Confensiwn. Fe fyddan nhw’n ystyried y pwnc eto ym mis Mawrth.
Roedden nhw’n condemnio’r oedi, ar ôl i’r ymgyrch wneud cwyn swyddogol. Roedd y Llywodraeth wedi dweud wrth newyddiadurwyr nad oedd ganddyn nhw fwriad i newid y drefn.
‘Hawl nid braint’
“Mae’r achos tros ddiwygio’n ddiymwad,” meddai’r ymgyrch. “Mae wedi ei seilio ar y farn nad braint yw pleidleisio ond hawl dynol sylfaenol.”
Maen nhw’n dadlau bod carcharorion eisoes wedi eu cosbi trwy golli eu rhyddid, heb golli’r hawl i gymryd rhan yn nhrefn ddemocrataidd y wlad hefyd.
Llun: Carchar Caerdydd
Anfon at ffrind