Fe allai’r cytundeb newydd yng Ngogledd Iwerddon wynebu’i rwystr cynta’, cyn i’r inc sychu ar y dogfennau.
Ar hyn o bryd, mae’r ffefryn ar gyfer swydd newydd Gweinidog Cyfiawnder yn y dalaith yn gwrthod cymryd ei enwebu.
Yn ôl David Ford, arweinydd plaid yr Alliance, mae angen gweithio’n galetach i gael gwared ar y rhwygiadau rhwng Pabyddion a Phrotestaniaid.
Dyw hi ddim yn glir chwaith beth fydd y polisïau yn y maes, meddai, gan alw am strategaeth glir i weithio ar lefel cymunedau i leihau’r gwrthdaro sectyddol.
Dewis y pleidiau mawr
David Ford yw dewis y ddwy blaid fawr, y DUP a Sinn Fein, ar gyfer y swydd newydd sy’n cael ei chreu yn sgil y cytundeb i ddatganoli grym tros yr heddlu a chyfiawnder o Lundain i Belffast.
Er bod hynny’n rhan o gytundebau heddwch cynharach, fe ddaeth y pwnc yn agos at chwalu’r Llywodraeth Bartneriaeth yng Ngogledd Iwerddon, gyda bron bythefnos o drafodaethau caled.
Yn y diwedd, fe gytunodd Unoliaethwyr Protestannaidd y DUP a Gweriniaethwyr Pabyddol Sinn Fein na fydden nhw’n cynnig aelodau o’u pleidiau eu hunain ar gyfer y swydd newydd.
Rhan o’r cytundeb newydd yw eu bod yn trafod gyda’r pleidiau llai yn y dalaith. Er bod gan yr UUP a’r SDLP fwy o gefnogaeth na’r Alliance, maen nhw hefyd yn cael eu gweld yn cynrychioli carfanau crefyddol a gwleidyddol.
Llun: Arweinwyr y ddwy blaid fawr – Peter Robinson (DUP) a Martin McGuinness (Sinn Fein)
Anfon at ffrind