08/02/2010
Straw’n gwadu tagu trafodaeth ar Ryfel Irac
Mae’r cyn Ysgrifennydd Tramor, Jack Straw, wedi gwadu ei fod wedi atal y Cabinet rhag cael trafodaeth iawn ar ochr gyfreithiol Rhyfel Irac.

Roedd y gweinidogion i gyd yn hollol ymwybodol o’r cwestiynau pwysig, meddai wrth Ymchwiliad Chilcot - er bod dogfennau’n dangos ei fod wedi rhybuddio’r Twrnai Cyffredinol rhag mynegi ei amheuon am y rhyfel.

Fe wadodd unrhyw gof fod gweinidogion wedi gwawdio’r Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Clare Short, pan gododd hi amheuon am gyngor y Twrnai, yr Arglwydd Goldsmith.

Llinell denau

Roedd pawb yn gwybod mai llinell denau oedd rhwng penderfynu bod y rhyfel yn gyfreithlon neu anghyfreithlon, meddai Jack Straw. Y Cabinet oedd wedi dewis peidio â gofyn rhagor.

Yr unig beth yr oedden nhw ei eisiau oedd penderfyniad yr Arglwydd Goldsmith, nid ei ddadleuon – er bod y Twrnai i ddechrau wedi gwrthwynebu’r rhyfel ac wedyn wedi dweud bod y penderfyniad yn un tynn iawn.

Roedd hefyd yn mynnu ei fod yn iawn i wrthod cyngor ei gyfreithwyr ei hun yn y Swyddfa Dramor - roedd cyngor y prif gyfreithiwr, meddai, yn croesddweud ei hun.

Yr unig awgrym o feirniadaeth o’i gyn-bennaeth, Tony Blair, oedd wrth gydnabod y dylai fod wedi creu pwyllgor neu system fwy ffurfiol i drafod y rhyfel.

• Wrth ddilyn trywydd arall, fe roddodd un o aelodau’r Ymchwiliad, awgrym clir bod Arlywydd America, George Bush, wedi penderfynu ymosod ar Irac doed a ddêl, arfau dinistriol neu beidio. Mae’n ymddangos bod dogfennau ar gael sy’n dangos hynny.

Llun: Jask Straw yn cyrraedd yr Ymchwiliad (Gwifren PA)

Anfon at ffrind