Mae un o brif blismyn Scotland Yard wedi cael ei garcharu heddiw am ymosod ar ddyn a’i arestio heb achos, yn dilyn ffrae am arian.
Cafodd y Comander Ali Dizaei, 47 - un o arweinwyr plismyn ethnig gwledydd Prydain - ddedfryd o ddwy flynedd yn y carchar a dwy flynedd ar drwydded.
Penderfynodd y rheithgor ei fod wedi camymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ac wedi gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe glywson nhw ei fod wedi ymosod ar ddyn o Irac o'r enw Waad al-Baghdadi, cyn ei arestio heb achos, ar ôl i’r dyn 24 oed ofyn am £600 oedd yn ddyledus iddo am waith ar wefan bersonol Ali Dizaei.
‘Neges glir’
Yn ôl barnwr yr achos, Mr Ustus Simon, roedd rhaid anfon “neges glir” nad yw heddweision o ba bynnag safle, ddim goruwch y gyfraith.
Dywedodd wrth Ali Dizaei y dylai fod wedi tynnu llinell glir rhwng ei fywyd personol a’i ddyletswydd fel heddwas.
Roeddech chi’n gwybod beth oedd y system meddai’r barnwr, ac roeddech chi’n credu na fyddai neb yn eich darganfod.
‘Gwarthus’
Mae Comisiynydd Heddlu’r Met, Sir Paul Stephenson, wedi dweud fod “ymddygiad gwarthus” ei gydweithiwr wedi difrodi enw da’r heddlu.
Dywedodd hefyd nad oedd yn synnu fod y ddedfryd mor llym, o ystyried safle Ali Dizaei a’r modd y bihafiodd.
Roedd Ali Dizaei yn gomander gyda Heddlu’r Met, ac wedi bod yn llywydd Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Croenddu.
Llun: Ali Dizaei yn 2003 (Gwifren PA)
Anfon at ffrind