Bydd pwl arall o dywydd gaeafol yn sgubo dros Brydain yn ystod y dyddiau nesaf, gan ddod â mwy o eira a rhew, meddai proffwydi tywydd.
Mae disgwyl i'r tywydd oer barhau tan y penwythnos ond heb fod cynddrwg â'r tywydd gaeafol a achosodd broblemau mawr adeg y flwyddyn newydd.
Dwyrain a de-ddwyrain Lloegr fydd yn ei chael hi waethaf ac mae disgwyl iddi fwrw eira'n drwm yn Swydd Caint, gyda thua 15cm o eira yn disgyn yno, a rhywfaint dros Lundain hefyd.
"Bydd rywfaint o dywydd heulog yn golygu na fydd yr eira'n aros yn ystod y dydd," meddai John Hutchinson o gwmni tywydd MeteoGroup. "Ond ddydd Iau a Gwener bydd llai o ysbeidiau heulog a mwy o eira."
Graean
Dywedodd David Sparks, cadeirydd y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr, y byddai cynghorau yn "gweithio'n ddiflino" er mwyn cadw ffyrdd ar agor".
Bydd cynghorau'n cydweithio er mwyn sicrhau bod yna ddigon o raean yn yr ardaloedd sy'n cael eu taro waethaf, meddai.
"Mae cynghorau wedi bod yn gweithio'n galed i adfer eu stociau graean ac mae rhai cynghorau wedi mewnforio graean. Ond dim ond hyn a hyn o halen y mae'r cyflenwyr yn gallu ei godi o'r ddaear."
Anfon at ffrind