09/02/2010
Blair – ‘pobol yn mynnu gweld cynllwyn’
Mae’r cyn Brif Weinidog, Tony Blair, wedi ymosod ar bobol sy’n honni bod cynllwyn y tu cefn i fynd i Ryfel Irac.

Ychydig tros wythnos ers ymddangos gerbron Ymchwiliad Chilcot, fe honnodd bod pobol yn mynnu chwilio am sgandal.

Roedd yn ymddangos ar raglen holi ar deledu yn yr Unol Daleithiau pan gafodd ei holi am y gyfres o ymchwiliadau sydd wedi bod yng ngwledydd Prydain ynglŷn â’r rhyfel.

“Mae’n rhaid cael sgandal ynglŷn â’ch safbwynt,” meddai. “Mae yna awydd parhaol i ddod o hyd i ryw gynllwyn mawr, er mai penderfyniad sydd wrth galon y peth.”

O flaen Chilcot eto?

“Penderfyniad” oedd ei air mawr gerbron Ymchwiliad Chilcot hefyd ond fe ddaeth awgrym y gallai gael ei alw’n ôl gerbron y panel hwnnw.

Fe eglurodd y Cadeirydd, Syr John Chilcot, y bydden nhw’n ystyried y dystiolaeth ar ôl y rownd gynta’ o wrandawiadau cyn penderfynu pa wybodaeth bellach oedd ei hangen a phwy i’w alw eto.

Ddoe, fe gafwyd awgrym am dystiolaeth newydd yn rhai o’r dogfennau y maen nhw wedi eu gweld – yn dangos bod Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, George Bush, wedi gwneud yn glir ei fod am ymosod ar Irac, doed a ddêl.

Roedd hynny ymhell cyn i’r rhyfel ddechrau, gan olygu nad oedd hi’n gwneud gwahaniaeth pa un a oedd gan Saddam Hussein arfau dinistrio neu beidio neu a fyddai’r Cenhedloedd Unedig yn pasio ail orchymyn yn erbyn Irac.

Geiriau Blair

“Mae pobol yn ei chael hi’n anodd dod i’r man lle gallan nhw ddweud: r’yn ni’n anghytuno; r’ych chi’n berson rhesymol, dw i’n berson rhesymol, ond r’yn ni’n anghytuno.

“Mae’n rhaid cael rhyw gynllwyn y tu cefn i [safbwynt], rhyw dwyll mawr sydd wedi bod ac mae pobol yn ei chael hi’n anodd deall ei bod yn bosib i bobol ddal safbwyntiau gwahanol ... am resymau didwyll.”

Llun: Tony Blair gerbron Ymchwiliad Chilcot (Gwifren PA)

Anfon at ffrind