07/02/2010
Arlywydd Iran yn gofyn am wraniwm cryfach
Mae arlywydd Iran, Mahmoud Ahmadinejad, wedi gorchymyn asiantaeth ynni atomig ei wlad i gynhyrchu wraniwm cryfach.

Daw datganiad diweddaraf yr arlywydd – sy’n sicr o ddyfnhau amheuon gwledydd eraill am ei wir fwriadau – wrth i Ysgrifennydd Amddiffyn America, Robert Gates, alw am bwysau rhyngwladol ar Iran i roi’r gorau i’w raglen niwclear.

“Os bydd y gymuned ryngwladol yn sefyll gyda’i gilydd a rhoi pwysau ar Iran, dw i’n credu bod amser o hyd i sancsiynau weithio,” meddai.

Wrth siarad ar deledu Iran gyda phennaeth yr asiantaeth ynni atomig, Ali Akbar, meddai’r Arlywydd Ahmadinejad:

“Mr Salehi, dechreuwch gynhyrchu wraniwm sydd wedi ei gryfhau 20%. Gyda chaniatâd Duw, bydd hyn yn diwallu anghenion Iran.”

Er bod Iran yn dal i ddadlau mai i ddibenion heddychlon y mae’r wraniwm hwn, mae’n achosi pryder i wledydd eraill gan y gellir ei ddefnyddio i greu arfau niwclear.

Anfon at ffrind