08/02/2010
Gwlad bwysig yn troi’n ôl at Rwsia
Fe allai un o wledydd pwysica’ dwyrain Ewrop droi’n ôl a chlosio unwaith eto at Rwsia.

Mae’r prif wrthwynebydd yn etholiadau’r Wcráin yn hawlio ei fod ar fin ennill yn erbyn y Prif Weinidog mwy gorllewinol.

Ar ôl cyfri bron ddwy ran o dair o’r pleidleisiau, roedd Viktor Yanukovych yn hawlio ei fod tua phedwar pwynt ar y blaen.

Mae ef yn cael ei weld yn gefnogwr brwd i Moscow ac roedd yn un o brif wrthwynebwyr y Chwyldro Oren yn y wlad yn 2004 pan gafodd cefnogwyr Rwsia eu disodli.

Tua’r gorllewin

Roedd y Prif Weinidog presennol, Yulia Tymoshenko, yn un o arweinwyr y Chwyldro heddychlon ac wedi gweithio’n galed i gryfhau cysylltiadau gyda gwledydd gorllewin Ewrop.

Er gwaetha’ honiadau Yanukovych, mae hi’n rhybuddio bod y canlyniadau’n rhy agos i neb hawlio buddugoliaeth.

Mae arolygon barn yn awgrymu bod pobol yn dal i gefnogi amcanion economaidd a democrataidd y Chwyldro Oren ond eu bod wedi colli ffydd yn yr arweinwyr.

Mae polau wrth adael y bythau’n awgrymu bod Yanukovych ar y blaen a bod mwy wedi pleidleisio yn ei gadarnle ef yn nwyrain y wlad, lle mae pobol yn siarad Rwsieg.


Llun: Viktor Yanukovych (AP Photo)
Anfon at ffrind