Mae’r “angen yn enfawr yn Haiti” ac fe fydd Cymorth Cristnogol yno ymhell ar ôl i’r camerâu teledu adael.
Meddai Branwen Niclas ar ran Cymorth Cristnogol, sydd newydd ddychwelyd o Haiti.
“Roedd yr holl ddinistr, y llanast, y siopau ac adrannau’r Llywodraeth oedd wedi dymchwel yn anghredadwy” meddai Branwen Niclas, sy’n gweithio i fudiad Cymorth Cristnogol.
Gwelyau ar y stryd
“Roedd yna welyau ysbytai ar y stryd - a phobol yn gorwedd yn y gwelâu hynny oherwydd bod yr ysbytai wedi dymchwel.
“Roedd llawer o’r trigolion lleol “ofn mynd yn ôl i’w cartrefi.
“Wnes i gyfarfod merch 20 oed gyda efeilliaid 11 mis oed. Roedd y tŷ drws nesaf a’r tŷ drws-nesaf-ond-un i'w chartref wedi’u dymchwel. Roedd hi ofn mynd yn ôl i’w chartref i nôl blancedi a bwyd i’w phlant bach.”
Mae’r fam yn cael cymorth bellach yn un o glinigau mam a’i phlentyn Cymorth Cristnogol, sy’n cynnig bwyd maeth uchel i fabanod ac un pryd poeth y dydd i rieni.
Ysbrydoli merched
“Ar ôl y daeargryn, fe ddywedodd un ferch wrtha’i fod dynion yn eistedd i lawr a chrio,” meddai Branwen Niclas, cyn dweud fod merched yn ymddwyn yn gryf ac yn sefyll ysgwydd ag ysgwydd.
“Yn y llefydd tlotaf un, mae merched eisiau bywyd urddasol - dim ots beth ydi eu hamgylchiadau. Hyd yn oed yn y tristwch mwyaf un, mae pobol yn dal i weld gobaith ac ysbrydoliaeth i adeiladu bywydau gwell.”
“Rydan ni’n cael ein hyfforddi i fynd i mewn i sefyllfaoedd trychineb, ond doedd dim byd yn gallu ein paratoi am hyn. Roedd o’n brofiad mawr iawn – mae Haiti’n genedl mewn galar.”
Anfon at ffrind