Mae cwmni ceir Toyota wedi penderfynu galw 437,000 o geir 'gwyrdd' yn ôl oherwydd problemau gyda'r breciau - y diweddaraf mewn cyfres o wallau diogelwch gan gwmni ceir mwya'r byd.
Fe fydd llywydd Toyota Motor Corp, Akio Toyoda yn cynnal cynhadledd newyddion yn Tokyo heddiw er mwyn datgelu beth sy'n bod gyda'r ceir, ac i ddweud ei bod hi'n bosib y bydd y ceir yn cael eu galw'n ôl mewn gwledydd y tu allan i Japan.
Dywedodd swyddog arall ar ran Toyota y byddai'r Prius, sy'n rhedeg ar drydan a phetrol, yn cael ei alw'n ôl yn Ewrop hefyd. Mae yna tua 100,000 o'r ceir yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Maen nhw'n fwy poblogaidd yn Japan lle nad oes rhaid talu treth ar geir 'gwyrdd'.
Fe fydd y cwmni yn galw dau gar 'gwyrdd' arall yn ôl hefyd, y Lexus HS250h sedan a'r Sai, yn ogystal â'r 200,000 Prius sydd wedi eu gwerthu yn Japan ers miis Ebrill y llynedd.
Mae'r cwmni wedi derbyn 200 o gwynion yn Japan a'r Unol Daleithiau gan yrwyr sy'n dweud bpd y breciau'n araf yn gweithio.
"Fe wnawn ni ein gorau i adferl ffydd cwsmeriaid," meddai Hiroyuki Yokoyama, un o reolwyr Toyota.
Mae Toyota eisoes yn ceisio trwsio problemau mewn miliynau o geir eraill oherwydd gwall yn y sbardun.
Anfon at ffrind