09/02/2010
Cyn filwr y Falklands yn ‘drist’ tros farwolaethau Afghanistan
“Trist iawn” oedd ymateb milwr enwoca’ Rhyfel y Malfinas i’r newyddion bod mwy o filwyr Prydeinig bellach wedi eu lladd yn Afghanistan nag yn Ynysoedd y Falklands.

Fe gafodd tri o filwyr eu lladd yn nhalaith Helmand ddoe, gan olygu bod 256 o filwyr bellach wedi marw yno ers i’r brwydro ddechrau yn 2001.

Yn ôl y Cymro, Simon Weston, a gafodd ei losgi’n ddifrifol yn Rhyfel y Malfinas, roedd y profiad wedi bod yn un trawmatig i’r lluoedd arfog.

Faint rhagor?

Gyda’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Bob Ainsworth, yn rhybuddio y bydd rhagor o golledion yn ystod cyrch newydd yn erbyn y Taliban, roedd y milwr o Ffos y Gerddinen yng Nghwm Rhymni’n credu y gall pethau fynd yn llawer gwaeth eto.

“Mae’n rhaid i chi ofyn faint rhagor sy’n mynd i farw ac a fydd y nifer yn y diwedd yn fwy na Gogledd Iwerddon hyd yn oed,” meddai.

Ond roedd yn mynnu na ddylai’r fyddin adael: “Allwn ni ddim gadael y Taliban i mewn i ymddwyn fel hy gwnaethon nhw o’r blaen.”

Yn hynny, roedd yn cytuno gyda Bob Ainsworth sy’n honni bod y cyrch newydd yn hanfodol er mwyn diogelu gwledydd Prydain trwy gadw Afghanistan o ddwylo terfysgwyr.

Y tri a fu farw

Roedd dau o’r milwyr a laddwyd ddoe yn aelodau o’r Royal Scots Borderers a’r trydydd gyda Chatrawd y Peirianwyr. Doedd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddim yn fodlon cadarnhau ei fod ef wedi ei ladd yn ystod y cyrch newydd.

Fe gafodd 655 o filwyr Archentaidd eu lladd yn Rhyfel y Malfinas – mae degau o filoedd o bobol gyffredin wedi marw yn ystod y rhyfel yn Afghanistan ond does dim ffigurau pendant.

Llun: Simon Weston - faint rhagor?

Anfon at ffrind