30/07/2010
Yr Eisteddfod yn ‘ail-asesu sefyllfa’r bysiau yn ‘nes ymlaen yn yr wythnos’
Mae’n bosib y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn “ail-asesu” sefyllfa bysiau gwennol i ac o Faes B wrth i’r wythnos nesa’ fynd yn ei blaen.

Daw’r newydd hwn wedi i’r Eisteddfod ddatgan y bore yma na fyddai bysiau’n cario gigwyr a phobol ifanc o Faes B i gyfarfod â’r gwasnaeth gwennol sy’n rhedeg o brif fynedfa’r prif Faes i’r maes carafanau, dros bedair milltir i ffwrdd.

Roedd hyn wedi peri pryder i rieni rhai pobol ifanc sy’n mynd i fod yn aros mewn carafanau, ond yn mynd i weld bandiau ym Maes B bob dydd.

“Fydd yna ddim bws wedi’i drefnu o Faes B i’r maes carafanau ddechrau’r wythnos gan na chafwyd defnydd ohono yn y gorffennol,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol wrth Golwg360.

“Ond, fe fydd yr Eisteddfod yn ail-asesu’r sefyllfa yn nes ymlaen yn yr wythnos.”

Anfon at ffrind