31/07/2010
Rheol yn creu penbleth i’r beirdd
Mae rheol newydd yng nghystadleuaeth y Goron wedi achosi penbleth ymhlith beirdd yng Nglyn Ebwy.

Wrth geisio datrys un broblem, maen nhw wedi creu problem newydd ac yn gwahardd rhan o grefft gynhenid barddoniaeth rydd Gymraeg.

Er mwyn ceisio gwneud yn siŵr na fydd digwyddiadau llynedd yn cael eu hailadrodd – pan enillodd Ceri Wyn Jones gyda cherddi ar fesurau caeth y Gadair – maen nhw wedi ceisio gwahardd y cynganeddion o’r gystadleuaeth rydd.

Y rheol

Yn nhestunau Eisteddfod y flwyddyn nesa’, mae’n dweud yn glir mai “cerddi digynghanedd” sydd eu heisiau ar gyfer y Goron, gan rwystro camp arall debyg i un Ceri Wyn Jones.

Ond maen nhw’n mynd ymhellach mewn amod arbennig sy’n dweud, “Caniateir cynnwys ambell linell ddamweiniol neu anfwriadol gynganeddol”.

Y cwestiwn mawr ydi: “Sut ydych chi’n gwybod beth sy’n anfwriadol?”

“All bardd honni fod pob un o’i gynganeddion o’n ddamweiniol,” meddai’r Prifardd Myrddin ap Dafydd. “Mae o’n gwneud y bwlch yn yr amodau’n fwy.”

Crefft

Beirniadaeth fwy difrifol yw bod cynnwys ambell linell neu gyffyrddiad o gynghanedd mewn cerdd rydd yn rhan o gamp barddoniaeth Gymraeg - o feirdd fel R. Williams Parry a T. Gwynn Jones i’r diweddar Iwan Llwyd.

“Roedd Iwan yn hyddysg yn y cynganeddion a hyd yn oed yn ei ganu rhydd, roedd y gynghanedd yn canu cloch,” meddai Myrddin ap Dafydd. “Dyw cynnwys ychydig o gynghanedd ddim yn fai.”

Llun: Ceri Wyn Jones - wedi ennill y Goron gyda cherddi caeth

Anfon at ffrind