10/12/2009
Annwyl Brif Weinidog
Mae Dylan Iorwerth wedi penderfynu ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd...


Annwyl Carwyn,

Maddeuwch i fi am eich cyfarch wrth eich enw cynta’, ond mae’n ymddangos eich bod eisoes wedi ennill eich plwy ddigon i gyfiawnhau hynny – fel Rhodri o’ch blaen chi, ond nid fel Alun Michael.

A llongyfarchiadau ar y swydd. Dw i’n cofio rhywun yn dweud, cyn etholiadau 1999 hyd yn oed, eich bod yn ddarpar arweinydd ar y wlad. Gobeithio fod y boi hwnnw’n cynnig ar y Loteri hefyd.

Dw i ddim eisio bod yn hy’ chwaith a chynnig cyngor ond mae yna un neu ddau o bethau dw i’n meddwl y dylech chi eu gwneud. Un neu ddau o bethau yr oedd Rhodri wedi methu â’u taclo go iawn. Tri pheth a bod yn fanwl gywir.

Un ydi’r economi. A ninnau ynghanol y dirwasgiad, tybed a allwch chi osgoi’r demtasiwn i wneud pethau sy’n edrych yn dda yn y tymor byr? A allwch chi wario hynny o arian Ewrop sydd ar ôl ar gynlluniau fydd yn helpu’r economi yn y tymor hir?

Mae yna ormod o’r arian hyd yma wedi ei wario ar gynlluniau sydd fel petaen nhw wedi eu creu yn unswydd er mwyn gwario’r arian. O weld ffigurau sy’n dangos cyn lleied o fusnesau newydd sy’n cael eu creu yng Nghymru, mae’r angen yn amlwg am weithredu creadigol.

Mae’r ddwy dasg arall yn ymwneud â’ch plaid eich hun.

A allwch chi sortio agwedd y Blaid Lafur at ddatganoli a setlo’r peth unwaith ac am byth? Mae’r anniddigrwydd tros ddyddiad refferendwm yn awgrymu nad ydi llawer o’r aelodau – ac ASau yn benodol – yn rhy hapus efo cyfeiriad pethau. Wnaeth Rhodri ddim gwthio’r ddadl – bellach mae’n amser gwneud.

Yn ola’, Barnett. Mae pawb yn gwybod fod y drefn yn annheg. Yr hyn sydd ei angen ydi dewrder i ddadlau yn erbyn y Trysorlys a chreu pwysau er mwyn gweithredu. Os ydi hynny’n golygu wynebu’r Macia (fersiwn Albanaidd y Cosa Nostra), wel dyna ni. Dyna pam yr ydech chi bellach yn eich swydd. Beth fyddai Alex Salmond yn ei wneud yn eich sgidiau chi?

Mae yna frys ynglŷn â’r cyfan – efallai mai ychydig fisoedd sydd ar ôl i chi fanteisio ar Lywodraeth Lafur yn Llundain. Ac efallai bod hynny’n ei gwneud hi’n haws – nid eich plaid chi fydd yn gorfod goresgyn yr anawsterau.

Dw i ddim yn disgwyl ateb i’r llythyr yma, ond mi fyddai gweithredu’n neis.

A phob hwyl gyda’r swydd – fyddai neb call yn dymuno fel arall.

Dylan


Anfon at ffrind