16/12/2009
Geiriau doeth y Parch Stephen Venner
Ifan Morgan Jones sy'n edrych ar sylwadau esgob newydd y lluoedd arfog Stephen Venner...


Esgob! Dyna fy ymateb wrth ddarllen sylwadau'r Parch Stephen Venner yn y wasg dydd Llun.

Dywedodd arweinydd Anglicanaidd newydd y lluoedd arfog mewn cyfweliad gyda’r Telegraph: “Efallai bod modd edmygu’r Taliban am eu hargyhoeddiad yn eu cred ac am eu teyrngarwch tuag at ei gilydd.”

Galwch fi’n sinigaidd, ond wrth i’r geiriau fartsio ar draws fy llygaid roeddwn i’n gallu gweld gweddill diwrnod y parchedig druan yn datblygu.

Byddai pob papur newydd a gwefan yn dyfynnu’r union eiriau hynny, yn ffeindio ryw wleidydd a fyddai’n ddigon parod i’w gondemnio, a chyn iddi nosi fe fyddai wedi cyhoeddi ymddiheuriad brysiog.

Ac felly y bu. Erbyn i mi adael y swyddfa gyda’r nos roedd o yng nghyffesgell Radio 4 yn pledio am faddeuant. Yn ddiweddarach cyhoeddodd ail ddatganiad yn dweud bod gan filwyr Prydain ei “gefnogaeth lawn” a bod rhyfel y Taliban yn “anfad”.


Dilyn yn ôl traed Rowan

Wrth edrych yn fanylach ar ei union eiriau, mae’n amlwg ei fod wedi etifeddu rywfaint o ddawn y dyn oedd wedi ei benodi i’r swydd – dawn i roi ei droed ynddi.

Mae’r Cymro, Archgesbob Caergaint Rowan Williams, yn dweud pethau call ac ystyrlon sy’n cael eu cymryd allan o’u cyd-destun yn llwyr gan y cyfryngau.

Y wers amlwg i’r Eglwys Anglicanaidd yn hyn o beth yw bod yn rhaid iddyn nhw fod yn fwy clyfar wrth ragweld sut y bydd sound-bites unigol yn cael eu derbyn gan y cyfryngau.

Heblaw am hynny does dim byd yn sylfaenol anghywir yn beth ddywedodd yr esgob.

“Mae yna lawer o bethau y mae’r Taliban yn sefyll drostyn nhw ac yn ei ddweud na allai neb yn y Gorllewin eu cymeradwyo. Ond dyw dweud bod popeth y maen nhw’n ei wneud yn ddrwg ddim yn helpu chwaith,” meddai wrth y Telegraph.

Dywedodd hefyd bod angen i bawb yn Afghanistan, gan gynnwys y Taliban, fod yn rhan o’r ateb i broblemau’r wlad.


Miliband hefyd

Fis diwethaf dywedodd Gweinidog Tramor Prydain, David Miliband, bron yn union yr un peth. Roedd mwyafrif aelodau’r Taliban yn bobol gyffredin ac mi ddylen nhw gael eu hintegreiddio nôl i mewn i gymuned Afghanistan, meddai.

Dywedodd bod rhai aelodau o’r Taliban wedi ymdynghedi i “jihad byd-eang” ond bod y rhan fwyaf yn amddiffyn eu tylwyth neu eu cymdogaeth.

“Nid brwydr i’r eithaf yw ein nod ni, ond dangos nad oes modd iddyn nhw ennill, a chynnig ffordd yn ôl i’w cymunedau i’r rheiny sy’n fodlon byw yn heddychlon,” meddai.

Efallai mai dyna’r ffordd ymlaen yn Afghanistan. Rhoi’r gorau i weld y Taliban fel un cythraul anorchfygol a’u gweld fel casgliad digon blêr o unigolion gyda bron cymaint o gymellion dros frwydro ag sydd o aelodau.

Ond wrth i 500 yn rhagor o filwyr gael eu hanfon i Afghanistan, mae’n amlwg nad yw hynny ar frig rhestr blaenoriaethau’r Llywodraeth. Dyw’r gwn ddim wedi llwyddo i greu heddwch yn Afghanistan eto. Mae angen newid strategaeth.


Anfon at ffrind