18/12/2009
Gordon Brown a’r botwm coch
Ifan Morgan Jones sy'n edrych ar ddyddiad posib etholiad cyffredinol...


Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd yna raglen gwis fyrhoedlog ar S4C o’r enw Risg, dan arweiniad y gyflwynwraig dywydd Sian Lloyd.

Y syniad clyfar y tu ôl i’r gêm oedd bod y gynulleidfa yn cael rywfaint o’r elw am bob cwestiwn yr oedd y cystadleuydd yn ei gael yn iawn.

Roedd gan bawb yn y gynulleidfa fotwm coch - os oedd yr atebion anghywir yn dechrau pentyrru, a dros 50% o’r gynulleidfa yn gwasgu’r botwm coch, roedd y cystadleuydd yn cael cic allan ac un newydd yn dod yn ei le.

Wnaeth y rhaglen ddim parhau’n hir iawn. Mae’n debyg bod gormod o’r gwylwyr gartre’ wedi gwasgu’r botwm hefyd (y botwm ‘off’), ond mae’r fformat yn syniad da serch hynny. Nid ar gyfer cwis ond ein Llywodraeth yn San Steffan.

Pe bai botwm coch yn cael ei osod ymhob cartref ym Mhrydain a’r Llywodraeth yn gorfod galw etholiad cyffredinol bob tro y mae mwy na 50% o’r boblogaeth yn ei wasgu, fe fydden ni wedi pleidleisio bellach. Os nad yn sgil y cwymp ariannol yna’n sicr ar ôl y sgandal costau San Steffan.

Ond dan y sustem bresennol, lle mae hawl i’r llywodraeth rygnu yn ei blaen nes taro wal gyfansoddiadol, does dim gofyn i gynnal etholiad cyffredinol tan 3 Mehefin 2010.

Bydd hyn yn bwnc trafod mawr yn y flwyddyn newydd, wrth i’r Torïaid geisio dyfalu pryd y bydd Gordon Brown yn galw’r etholiad a’r cyfryngau yn ei annog i wneud hynny am eu bod nhw eisiau rhywbeth diddorol i’w drafod.

Wrth gwrs, y peth callaf fyddai cael cyfnod penodedig o bedair blynedd rhwng bob etholiad, fel yn achos ein Cynulliad ni, llywodraeth yr Unol Daleithiau a bron bob llywodraeth arall.

Ond nid fel yna y mae hi, ac ar hyn o bryd rydan ni’n gwylio gêm arall o Risg. Nid Sian Lloyd sydd wrth y llyw ond y Frenhines. Rhaid i Gordon Brown benderfynu pryd i ofyn iddi am etholiad cyffredinol.

Ydi o’n mynd at y wlad ym mis Mawrth, gan wybod ei fod o ar ei hol hi yn y polau piniwn ond o fewn cyrraedd i senedd grog? Ynteu a ddylai ddisgwyl deufis arall tan fis Mai gan wybod y gallai pethau wella iddo? Neu waethygu wrth gwrs.

Yn y pen draw, dyw hi ddim yn debygol o wneud gwahaniaeth. Mae’r etholwyr wedi gwasgu’r botwm coch ar y senedd yma, o leia’ yn eu meddyliau eu hunain. Does gan Gordon Brown ddim rheswm da dros ddal ymlaen fwy nag sy’n rhaid.


Anfon at ffrind