Dylan Iorwerth yn dadlau fod eisiau i ni weld yr eirch...
Nid Wootton Bassett ydi’r lle, ond mi ddylai’r orymdaith Foslemaidd ddigwydd.
Sensitifrwydd a chydymdeimlad at deulu a ffrindiau’r milwyr marw ydi’r prif reswm tros wrthwynebu cynnal y gwrthdystiad yn y dre’ fechan ger Swindon.
Y rheswm arall ydi’r peryg amlwg o drais ac o greu rhagor o gasineb rhwng cymunedau y mae angen eu tynnu ynghyd.
O ran pob ystyriaeth arall, Wootton Bassett fyddai’r lle amlwg i ddangos maint y colledion ymhlith pobol gyffredin Afghanistan, oherwydd y rhyfel yno.
Mi ddaeth y dre’n symbol o golledion lluoedd arfog gwledydd Prydain a ninnau i gyd yn rhoi sylw anferth i bob milwr sy’n marw mewn gwlad filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Yr ochr arall
Mae’n iawn, felly, ein bod ni’n cael clywed am yr ochr arall a’r holl bobol ddiniwed sydd hefyd yn cael eu lladd yno – llawer iawn mwy na 246 yn ystod y naw mlynedd diwetha’.
Yn yr ystyr yna, mae Wootton Bassett hefyd yn symbol o’n unllygeidrwydd ni a dyna pam, mae’n debyg, y cafodd ei dewis gan fudiad Islam4UK.
Mae yna amheuon, wrth gwrs, am union natur y mudiad hwnnw a’i arweinydd ond, os ydi o o ddifri’n cynrychioli carfan eang o Foslemiaid – llawer ohonyn nhw’n ddinasyddion Prydeinig – mae ganddo hawl i’w lais a’i orymdaith.
Heddychlon
Yr amod ydi bod yr orymdaith yn un heddychlon, ddwys, yn atgoffa a phrocio cydwybod yn hytrach na chreu casineb.
O’r ochr arall, mae natur hysterig yr ymateb gan wleidyddion a chyfryngau – sydd fel ei gilydd yn brwydro am y wên gyhoeddus – yn dangos pam fod angen gorymdaith o’r fath. Peth cul ydi jingoistiaeth.
Yr eironi ydi bod yr un ymateb tros-ben-llestri wedi cyflawni union nod Islam4UK – mae marwolaethau pobol gyffredin Afghanistan bellach yn bwnc trafod. Mae’r eirch gwag eisoes wedi cael eu cario trwy ein meddyliau ni.
Felly, efallai nad oes angen gorymdaith. Os oes, mi ddylai gael ei chynnal. Nid yn yr Wootton Bassett go iawn ond yn rhywle fel Whitehall. Gwleidyddion, nid milwyr, sy’n mynd i ryfel.
Bellach, Wootton Bassett ydi pobman.
Anfon at ffrind