20/02/2010
Yr Alban yn ‘sefyll yn ffordd’ diwygio Barnett
Yr Alban sy’n sefyll yn ffordd diwygio’r ffordd y mae llywodraethau datganoledig yn cael eu hariannu, yn ôl ymgynghorydd i Lywodraeth y Cynulliad.

Mae’r Alban yn cael £4.2 biliwn yn fwy gan y Trysorlys nawr na petae’n rhan o Loegr, meddai Gerald Holtham, pennaeth ymchwiliad i sut mae Cynulliad Cymru’n cael ei ariannu.

Awgrymodd nad oedd Llafur yn meiddio diwygio’r ffordd y mae’r Alban yn cael ei ariannu am eu bod nhw’n wynebu bygythiad yr SNP yno.

Dywedodd wrth gyfarfod yng nghynhadledd Plaid Cymru bod Cymru’n cael llai drwy’r fformiwla Barnett nac y byddai pe bai’n rhan o Loegr.

Mae beirniaid wedi dadlau ers tro nad ydi’r fformiwla Barnett 30 mlwydd oed yn deg ar Gymru.

Roedd adroddiad gan Gomisiwn Holtham y llynedd yn dweud y gallai Cymru golli £8.5 biliwn erbyn diwedd y ddegawd.


‘Anghofiwch y peth!’

Mae gweinidogion yng nghlymblaid Llafur-Plaid Llywodraeth y Cynulliad wedi defnyddio darganfyddiadau’r Comisiwn i bwyso ar y Trysorlys i ddiwygio’r ffordd y mae llywodraethau datganoledig yn cael eu hariannu.

Dywedodd Gerald Holtham y byddai dewis arall i’r Fformiwla Barnett, sy’n rhoi arian yn ôl yr angen, yn golygu y byddai Cymru’n cael £114 am bob £100 sy’n cael ei wario ar Loegr.

Ond byddai siâr yr Alban yn disgyn o £120 i £105 a Gogledd Iwerddon o £125 i £121.

“Mae’r Alban yn cael £4.2 biliwn yn fwy na petai o’n rhan o Loegr,” meddai.

“R'yn ni’n agosáu at Etholiad Cyffredinol a’r prif wrthwynebwr i Lafur yn yr Alban yw’r SNP. Os ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n mynd i’w newid o, anghofiwch y peth!

“Mae o’n rhwystr yn y dyfodol agos i unrhyw newid.”

Dywedodd Plaid Cymru y byddai’n defnyddio ei ddylanwad pe bai yna senedd grog i sicrhau cytundeb ariannol teg i Gymru.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Helen Mary Jones, yn yr un cyfarfod nad yw “Llywodraeth Prydain am newid ar hyn o bryd am eu bod nhw ofn yr SNP".

Ond ni fyddai Llywodraeth Geidwadol yn “meindio cythruddo pleidleiswyr yr Alban”.

Mae Plaid Cymru a’r SNP yn gweithio fel un grŵp yn Senedd Llundain.


Anfon at ffrind