Fe fydd tri Aelod Seneddol Llafur ac un Arglwydd Ceidwadol yn defnyddio deddf 300 oed i geisio osgoi cael eu herlyn mewn llys barn.
Gyda phrotestwyr y tu allan yn gwisgo masgiau mochyn ac yn rhochian, fe aeth y tri AS a’r Arglwydd i mewn i Lys Ynadon Westminster i wynebu cyhuddiadau o dwyllo tros lwfansau seneddol.
Mewn dau wrandawiad gwahanol, fe ddywedodd bargyfreithwyr yr ASau a’r Arglwydd y bydden nhw’n defnyddio deddf o’r 17fed ganrif i geisio atal y prawf.
Yn lle hynny, fe fyddan nhw’n gofyn i’r achos gael ei drin gan awdurdodau’r Senedd.
Braint seneddol
Maen nhw’n honni fod ganddyn nhw fraint seneddol, sy’n golygu nad oes modd profi gweithgareddau seneddol mewn llysoedd y tu allan.
Fe wadodd bargyfreithiwr y tri aelod seneddol eu bod yn ceisio bod “uwchlaw’r gyfraith”. Roedd braint seneddol yn rhan o’r gyfraith, meddai.
Fe gytunodd y Barnwr Lleol fod yr achos yn ddigon pwysig i fynd i lys uwch ac fe fydd y pedwar yn ymddangos o flaen Llys y Goron Southwark ddiwedd y mis.
Pe baen nhw’n euog, fe allen nhw wynebu carchar am hyd at saith mlynedd.
Dyma’r cyhuddiadau
• Mae David Chaytor, 60, AS Gogledd Bury, wedi ei gyhuddo o gam hawlio arian rhent.
• Y cyhuddiad yn erbyn Elliot Morley, AS Scunthorpe, 57 oed, yw hawlio llog ar forgais oedd wedi’i dalu eisoes.
• Mae Jim Devine, 56, AS Livingston, yn wynebu dau gyhuddiad o gyflwyno anfonebau ffug am waith a gwasanaethau.
• Fe fydd yr Arglwydd Hanningford yn wynebu chwe achos o hawlio costau teithio’n anonest.
Anfon at ffrind