Mae gwerthwyr tai de Cymru wedi gwerthu mwy yn ystod dau fis cyntaf eleni – ond mae Aelod Seneddol yn rhybuddio y gallai’r cynnydd fod yn newydd drwg i’r bobol sy’n methu benthyg arian i’w roi i lawr ar dŷ.
Mae cynnydd o 50% wedi bod yn nifer y tai gafodd eu gwerthu yn ystod Ionawr a Chwefror eleni, o gymharu â 2009, ac roedd cynnydd yn y nifer o bobol oedd yn prynu eu ty cyntaf.
Ond, mae Jenny Willott, AS y Democratiaid Rhyddfrydol tros Ganol Caerdydd, wedi rhybuddio bod nifer fawr o bobol yn dal i fethu â chael eu troed ar yr ysgol am nad ydyn nhw’n gallu cael benthyg arian blaendal.
Newydd da – a drwg
“Rydw i’n croesawu’r newydd fod y farchnad dai yn dechrau cael ei thraed dani eto,” meddai Jenny Willott,
“Rydw i’n arbennig o falch o ddeall bod cynnydd yn nifer y bobol sy’n prynu eu tai cyntaf, yn enwedig gan fod llawer iawn wedi cael eu prisio ma’s o’r farchnad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Ond, rydw i’n dal i bryderu am y ffaith fod banciau’n gwrthod rhoi benthyg arian i bobol sydd heb y modd i roi blaendal ar dy. Mae hyn yn golygu y gall carfan helaeth o’r gymdeithas gael eu heithrio rhag prynu eu cartref eu hunain.”
“Yn amlwg, ddylai banciau ddim rhoi benthyciadau gwirion i bobol na fedr dalu’r arian yn ôl,” meddai Jenny Willett, “ond mae yna lot o bobol gyfrifol sy’n cael eu brifo gan y banciau ar hyn o bryd.”
Anfon at ffrind