Mae’r Llywodraeth eisiau gwahardd coleri electronig ar gyfer cathod a chŵn ac mae hynny wedi’i groesawu gan ymgyrchwyr tros hawliau anifeiliaid.
“Mae yna nifer o bryderon ynglŷn â sut y mae’r dyfeisiau hyn yn cael eu cam ddefnyddio,” meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones.
“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd lles anifeiliaid o ddifrif ac rwy’n hyderus y bydd yr hyn yr ydw i’n ei gyhoeddi heddiw yn mynd yn bell i wella lles anifeiliaid yng Nghymru.”
Fe gyhoeddodd yn y Cynulliad ddoe ei bod yn cyhoeddi mesur i wahardd y coleri sy’n rhoi cael eu defnyddio i ddisgyblu a hyfforddi anifeiliaid trwy roi sioc drydanol iddyn nhw.
Roedd y Llywodraeth wedi ymgynghori am y bwriad ac roedd y rhan fwya’ o’r ymatebion yn erbyn y coleri – er bod rhai’n honni bod y coleri’n ddull effeithiol o hyfforddi.
Cefndir
Mae’r coleri – sydd ar gael yn hawdd - yn cael eu defnyddio’n benna’ i hyfforddi cŵn, gan ddefnyddio offer o bell i roi sioc i’r anifail pan fydd yn ‘camfihafio’.
Maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio i ddisgyblu, er enghraifft os bydd ci’n cyfarth gormod neu gi neu gath yn baeddu’n gyson.
Ond mae mudiadau fel y Kennel Club wedi bod yn ymgyrchu’n eu herbyn ac yn galw am waharddiad llwyr.
“Dyw coleri trydanol ddim yn delio â’r problemau ymddygiad sylfaenol,” medden nhw, “ac maen nhw’n gallu achosi problemau mwy difrifol.
“Mae ymchwil wyddonol annibynnol yn cadarnhau bod y coleri yn ‘boenus ac yn codi ofn’ ac yn cael effaith negyddol ar les y ci yn y tymor hir.”
Oherwydd y defnydd o offer o bell i roi’r sioc, fydd cŵn weithiau ddim yn gwybod o ble mae’r ddisgyblaeth yn dod na pham.
Eithriadau
Ers dechrau’r broses wahardd ddwy flynedd yn ôl, fe gadarnhaodd Elin Jones ei bod wedi tynhau rhywfaint ar yr argymhellion. Fe fydd un neu ddau o eithriadau, gan gynnwys cŵn heddlu pan fydd plismyn yn defnyddio gynnau taser.
Fe fydd rhaid cael cefnogaeth y Cynulliad cyn y daw’r mesur yn ddeddf.
Anfon at ffrind