05/02/2010
Trysorau’n cael eu colli yn yr oes ddigidol



Mae technoleg ddigidol yn golygu y bydd llawer o wybodaeth werthfawr am awduron a llyfrau’n mynd ar goll.

Dyna’r pryder wrth i lenorion sgrifennu ar gyfrifiaduron a chywiro yn y fan a’r lle, heb gadw cofnod o’r newidiadau.

Mae Ifor ap Dafydd wedi bod yn gweithio ar brosiect ar gyfer Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ymchwilio i newidiadau mawr yn y ffordd y mae cofnodion yn cael eu harchifo.

Yn y fideo yma, mae’n disgrifio’r prosiect, ac yn egluro pam fod newid y modd y mae cofnodion awduron a llenorion yn cael eu harchifo yn bwysig, oherwydd y ddibyniaeth gynyddol ar gyfrifiaduron.


Anfon at ffrind