Fe gynyddodd y defnydd o’r cyffur cocên bum gwaith ymhlith pobol rhwng 16 a 59 oed yn ystod y 12 mlynedd diwetha’.
Dyna dystiolaeth y pwyllgor sy’n cynghori’r Llywodraeth ar gyffuriau wrth gyhoeddi arolwg o effaith y cyffur.
Y llynedd, roedd 6.6% o bobol 24 oed wedi cyfadde’ iddyn nhw ddefnyddio cocên, o’i gymharu ag 1.3% yn 1996.
Yn yr un cyfnod, roedd y defnydd ymhlith pobol rhwng 16 a 59 oed wedi codi o 0.6% i 3%.
Pobol dan 18 oed
Mae ffigurau ar wahân gan y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn awgrymu bod 65% yn fwy o bobol o dan 18 oed wedi gorfod cael eu trin am effeithiau cocên ers 2005.
Yn ôl Cadeirydd y Cyngor Ymgynghorol ar Gam-ddefnydd Cyffuriau. Les Iversen, mae rhai dan gamargraff bod cocên yn gymharol saff.
“Mae cocên yn gyffur niweidiol iawn, i unigolion ac i gymdeithas yn fwy cyffredinol,” meddai. “Mae’r defnydd cynyddol o cocên yn achosi pryder mawr.”
Fe fydd y Cyngor yn treulio tua blwyddyn yn ymchwilio i effaith cocên sydd hefyd yn mynd yn llai a llai pur, medden nhw, wrth gael ei gymysgu gyda defnyddiau eraill.
Anfon at ffrind