16/02/2010
Prifysgol Morgannwg yn torri swyddi
Mae Prifysgol Morgannwg wedi cadarnhau wrth Golwg 360 eu bod yn mynd i ddechrau torri swyddi dros y misoedd nesaf.

Dywedodd y Brifysgol bod 16 o swyddi ar draws yr adrannau dan fygythiad ar hyn o bryd wrth i’r arian i’w cynnal ddod i ben.

Mae yna eisoes fwy na 100 o swyddi dan fygythiad ym Mangor a 70 yn cael eu torri yng nghanolfan ymchwil IBERS Aberystwyth, ac mae pryderon y bydd Prifysgolion eraill yn dilyn.

Cadarnhaodd Prifysgol Morgannwg, sydd a tua 21,000 o fyfyrwyr, eu bod yn ymgynghori â staff ynglŷn â diswyddiadau cyn penderfynu pwy fydd yn colli eu gwaith.

“Mae yna nifer o bobol ar gontractau cyfnod penodol sy’n dod i ben,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Morgannwg.

“Fe allai nifer o’r swyddi hynny orfod cael eu torri wrth i’r nawdd ar gyfer y swyddi neu’r grant ar gyfer yr ymchwil ddod i ben.

“Ar hyn o bryd mae 16 o swyddi yn y Brifysgol dan fygythiad ac fe fydd 9 o bobol o bosib yn cael eu gwneud yn ddi-waith.”

Dywedodd y llefarydd nad oedd cynlluniau i dorri rhagor na hynny o swyddi ar hyn o bryd.


Anfon at ffrind