02/03/2010
Cwtogi’r BBC - effaith ar y gwasanaeth Cymraeg?
Mae’n rhy gynnar eto i ddweud pa effaith fydd toriadau i wefan a gorsafoedd radio'r BBC yn ei gael ar y ddarpariaeth Gymraeg.

Dyna ymateb BBC Cymru yn dilyn cyhoeddiad gan gyfarwyddwr y BBC, Mark Thompson, fod y gorfforaeth yn bwriadu cwtogi ar ei gwasanaeth radio a haneru maint ei gwefan.

Yn sgil y cyhoeddiad, bydd Ymddiriedolaeth y BBC yn mynd ati i “ymgynghori ar y cynigion cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud,” yn ôl BBC Cymru.

“Mae’n rhy gynnar i wybod union effaith yr adolygiad ar wasanaethau ar-lein y BBC yng Nghymru” meddai, “er bod Mark Thompson wedi cyhoeddi y bydd buddsoddiad yn ein blaenoriaethau, fel newyddiaduraeth, yn aros ar y lefelau presennol.”


Torri’n ôl

Rhybuddiodd undebau heddiw y byddai cynlluniau’r BBC yn bygwth hyd at 600 o swyddi ac y bydden nhw’n streicio er mwyn brwydro unrhyw ddiswyddiadau gorfodol.

Clywodd cannoedd o weithwyr y Gorfforaeth heddiw y byddai gorsafoedd radio 6 Music a’r Asian Network yn cau, ac y byddai’r BBC torri 25% o’r wefan.

Dyma’r cwtogi mwyaf ers i’r darlledwr lansio 88 mlynedd yn ôl.

Yn ôl Mark Thompson, mae’r BBC wedi tyfu’n rhy fawr, ac mae’n rhaid torri’n ôl er mwyn rhoi cyfle i gystadleuwyr masnachol.


Anfon at ffrind