Gydol fis Ebrill bydd arddangosfa yng Nghanolfan Grefft Rhuthun gan y Bwrdd Cymreig yn cyflwyno gwaith serameg cyfoes gan ddeg o grefftwyr.
“Casgliad newydd o waith sydd gen i, wedi eu gwneud o glai bone china,” meddai’r crochennydd Lowri Davies a gafodd ei magu’n Aberystwyth.
Mae ganddi gymysgedd o jygiau, cwpanau, tebotau a phowlenni yn yr arddangosfa.
“Adar a golygfeydd pentrefi sydd ar fy nghrochenwaith,” meddai Lowri Davies.
Daeth yr ysbrydoliaeth i gynnwys yr adar ar ôl i Lowri Davies astudio gwaith teulu enwog o Aberystwyth.
Anfon at ffrind