15/05/2009
Cymdeithas: Angen cryfhau’r Gorchymyn Iaith

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn protestio y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd yfory, ynglyn â’r ffaith eu bod yn credu bod Gorchymyn Iaith arfaethedig y Cynulliad ddim yn mynd yn ddigon pell.

Mae’r gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig yn ceisio am yr hawl i drosglwyddo pwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg o San Steffan i’r Cynulliad.

Mae’r ddogfen eisoes yn cael ei ystyried gan bwyllgorau yn y Cynulliad a Phwyllgor Materion Cymreig a Senedd y Deyrnas Gyfunol.

Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad, os byddant yn sicrhau’r hawliau yma, ei nod yw cynnig deddfwriaeth a fydd yn cyd-fynd â’r ymrwymiadau yn y ddogfen Cymru’n Un, sef: cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru; rhoi hawliau ieithyddol wrth i wasanaethau gael eu darparu; ac i sefydlu swydd Comisiynydd Iaith.

Ond mae Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn honni na fydd y Gorchymyn iaith, fel y mae yn awr, yn gwneud gwahaniaeth digonol i fywyd pobl Cymru o ddydd i ddydd. Mae hi’n honni bod angen trosglwyddo'r “holl” bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg i Gymru.

Hefyd, yn ôl y ddarllenwraig Angharad Mair, sydd yn mynd i fod yn annerch y rali yfory, “mae angen i ni gyd ddatgan yn glir wrth yr aelodau seneddol ... ein bod ni’n mynnu mai’r unig le moesol a chyfiawn i wneud penderfyniadau am yr iaith Gymraeg yw yma yng Nghymru, ac mae angen deddf flaengar newydd ar frys i sicrhau sefyllfa gyfartal i’r iaith er mwyn ei diogelu ar gyfer y dyfodol.”

Bydd y rali yn digwydd ddydd Sadwrn 16/05/09 am 2pm.

Anfon at ffrind