17/05/2009
Galw am drosglwyddo pwerau deddfu

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, daeth dros 300 o i rali y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd ddoe i alw am drosglwyddo’r holl bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg o Lundain i Gaerdydd.

“Ni’r Cymry sydd wedi creu problem yr iaith, a ni’r Cymry yn ein senedd sy’n mynd i ffeindio’r ateb i’r broblem honno,” meddai un o’r siaradwyr, Hywel Teifi Edwards.

Ymysg y siaradwyr eraill oedd y ddarlledwraig Angharad Mair, Adam Price o Blaid Cymru a Jake Griffiths, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru.  Anfonwyd datganiadau o gefnogaeth hefyd gan y Blaid Geidwadol ac chan y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Ni fydd y Gorchymyn Iaith fel y mae’n awry n gwneud gwahaniaeth digonol i fywydau pobl Cymru o ddydd – mae angen trosglwyddo’r holl bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg yma i Gymru,” meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Roeddem yn falch iawn fod rhai o wynebau amlwg Cymru wedi datgan cefnogaeth i’n galwadau.”

Anfon at ffrind