26/05/2009
Busnes lleol yn prynu safle ffatri gaws Dyffryn Aeron

Mae cwmni o Geredigion wedi prynu ffatri gaws leol a gaeodd ddwy flynedd yn ôl gan golli 50 o swyddi.

Cadarnhaodd cwmni cludiant Donald Jenkins a’i Fab eu bod nhw wedi prynu ffatri Aeron Valley Cheese, yn Felin-fach, 26 mis ar ôl iddi gau. Y nod yw creu lle i fusnesau eraill ddatblygu.

Fe aeth criw o bobol leol ati i chwilio am ddefnydd newydd i’r ffatri – un o ddwy ffatri gaws a gaeodd yno o fewn misoedd i’w gilydd yn 2006 a 2007 gan golli tua 165 o swyddi.

Fe wnaethon nhw greu Gweithgor a chynnal cyfarfodydd gyda gwleidyddion lleol a Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad, Ieuan Wyn Jones.  

Bwriad y cwmni yw rhannu’r safle yn unedau llai o faint, a chydweithio gyda Gweithgor Dyffryn Aeron i ddenu busnesau i’r safle.

Busnesau yn “barod”

Dywedodd y Gweithgor bod ‘nifer o gwmnïau’ wedi dangos diddordeb mewn adleoli a datblygu ar y safle yn y misoedd diwethaf.

“Mae gyda ni ddau neu dri enw sy’n barod i symud i mewn, ond na fydd yn cael eu rhyddhau eto am nad yw’r trefniadau wedi eu cwbwlhau,” meddai’r cynghorydd lleol Owen Llywelyn, sydd hefyd yn un o arweinwyr Gweithgor Dyffryn Aeron.

“Mae’n edrych yn addawol iawn a bydd yr unedau yn cael eu defnyddio yn y dyfodol agos.”

‘Tu ôl i’r llenni’

Roedd cynnig Donald Jenkins a’i Fab wedi ei dderbyn gan y cyn-berchnogion Lactalis mclelland o’r Alban ddiwedd 2008, meddai Owen Llywelyn.

Dywedodd bod y Gweithgor wedi bod yn gweithio “tu ôl i’r llenni” i ddenu busnesau i’r safle a bod rhai yn barod i symud i mewn.

Roedd brwdfrydedd pobol leol wedi bod yn factor mawr ym mhenderfyniad Donald  Jenkins a’i fab i brynu’r ffatri.

Brwydro’n ôl – unwaith eto

“Rhaid talu teyrnged i’r gymdogaeth leol am y ffordd wnaeth ymateb i golli swyddi yn 2006 gyda chau Dairygold, ac yn 2007 gyda chau Aeron Valley Cheese,” meddai Owen Llywelyn.

“Yn hytrach na chilio fe wnaeth pobl yr ardal ymateb i’r her drwy weithredu’n gadarnhaol.

“Y gymdogaeth ei hun sydd wedi arwain ar y mater hwn, ac mae wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau y bydd safle Aeron Valley Cheese yn cyflogi pobl unwaith yn rhagor.”

Dyma’r ail dro i bobol leol frwydro tros ddyfodol diwydiant yn yr ardal – yn yr 1980au fe fuon nhw’n llwyddiannus yn denu busnesau newydd pan gaewyd hufenfa’r pentref.

Y gwaith yn parhau

Dywedodd Owen Llywelyn y byddai Gweithgor Dyffryn Aeron yn parhau tra bod gwaith i’w wneud yn denu mwy o gwmniau i gymryd unedau yn y ffatri.

“Mae gyda ni unedau gwag a hefyd mae safle anferth ffatri Dairygold yn dal yn wag,” meddai Owen Llywelyn.

Anfon at ffrind