10/06/2009
Golwg 360 – datganiad gan Golwg Newydd

Gan fod rhai ymhlith y cyfryngau yn dal i holi am broblemau cychwynnol Golwg360 ac am nad ydi datganiadau nag atebion cynharach wedi cael eu cynnwys yn llawn, mae cwmni Golwg Newydd wedi penderfynu cyhoeddi datganiad yn egluro’n llawnach.

Datganiad gan Golwg Newydd 10-06-09

Yn yr adroddiadau yn y cyfryngau am broblemau cychwynnol gwefan Golwg360 fe roddwyd cam–argraff annheg am rôl a chyfrifoldeb Tinopolis.

Nid Tinopolis a ddatblygodd y cod sydd wedi achosi’r trafferthion. Cymerodd cwmni TV Everywhere gyfrifoldeb am ddod o hyd i is-gontractwyr a chysylltu gyda nhw. Y gwaith yna yw sail y problemau.

Ar ddechrau’r broses o sefydlu’r gwasanaeth, Tinopolis oedd yn gyfrifol am y manyldeb technegol - gwasanaeth a roddwyd am ddim gan y cwmni i helpu lawnsio’r prosiect. 

Daeth y gwendidau i’r amlwg pan aeth y wefan yn fyw. Daeth yn amlwg nad oedd yr is-gontractwyr wedi cadw at y cyfarwyddiadau a’r safonau a osodwyd yn y manyldeb technegol. Y gwaith yma a achosodd y problemau.

Ers i’r problemau yma ddod yn amlwg, mae Tinopolis wedi bod yn barod iawn i weithio’n uniongyrchol gyda Golwg Newydd –  i ddatrys y problemau ac i wella’r feddalwedd ac mae’r gwaith hwn hefyd yn cael ei wneud yn rhad ac am ddim, yn yr awydd i weld y wefan yn llwyddo a dad-wneud y camgymeriadau a wnaed gan eraill.

Mae Golwg Newydd yn gwerthfawrogi’n fawr y gwaith y mae Tinopolis yn ei wneud – mae eu tîm eisoes wedi gweithio’n gyflym a medrus i gywiro rhai o’r prif wendidau ac yn ein helpu i baratoi at ddatblygiadau cyffrous yn y dyfodol agos.

Fel yr ydym wedi dweud droeon, doedd dim arian cyhoeddus yn cael ei wario ar y rhan yma o’r prosiect.

Cafodd Prif Weithredwr TV Everywhere, Iolo Jones, ei gyflogi yn Ymgynghorydd Technegol a Masnachol gan Golwg Newydd – roedd hynny’n rhoi cyfrifoldeb i gynnig syniadau a chynghori. Am hynny y mae wedi cael ei dalu gan Golwg Newydd.

Ers y lansio, dyw TV Everywhere ddim yn gweithio i Golwg Newydd.

Anfon at ffrind