Mae Corff Iechyd y Byd wedi cyhoeddi fod y ffliw moch bellach yn bandemig byd eang.
Mae codi’r lefel rhybudd i bandemig – am y tro cynta’ ers 40 mlynedd – yn cydnabod pa mor eang y mae’r afiechyd wedi lledu.
Erbyn y bore yma, roedd nifer yr achosion ar draws y byd wedi cod i fwyn na 27,700, mewn 74 o wledydd. Mae 141 o bobol wedi marw o’i herwydd.
Fe fu cynnydd arall yng ngwledydd Prydain heddiw, gydag 822 o achosion bellach wedi eu cadarnhau.
Dywedodd yr Athro Steve Field sydd wedi gweithio ar gynlluniau’r Deyrnas Unedig i fynd i’r afael a’r ffliw, ei fod yn “amser hanesyddol”.
Ond dywedodd nad yw’r golygu “newid mawr i beth ydan ni wedi body n ei wneud ers wythnosau”.
Anfon at ffrind