Mae’r cyn Weinidog Cymunedau, Hazel Blears, wedi dweud wrth bapur newydd y Manchester Evening News ei bod yn difaru ymddiswyddo o'r Cabinet y diwrnod cyn Etholiadau Ewrop a'r etholiadau lleol yn Lloegr.
Roedd wedi cael ei chondemnio'n hallt gan rai o ymgyrchwyr selog y Blaid Lafur am danseilio eu gwaith nhw yn ymgyrchu ar garreg y drws. Roedd hi efyd wedi gwisgo broets yn dweud 'Rocking the Boat' y diwrnod ar ôl mynd ac wedi cael ei chyhuddo o fwynhau trafferthion ei phlaid.
Heddiw, fe wadodd y cyhuddiad ei bod wedi amseru ei hymddiswyddiad er mwyn difrodi awdurdod y Prif Weinidog, Gordon Brown.
Dywedodd mai'r rheswm tros adael pan wnaeth hi oedd bod dim modd iddi aros ar ôl i Gordon Brown ddweud fod ei methiant i dalu enillion cyfalaf ar bris gwerthu ei hail dy yn “hollol annerbyniol.”
Anfon at ffrind