Mae’r Heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad arfog mewn siop yn y Rhath, Caerdydd. Maen nhw wedi cyhoeddi lluniau CCTV o’r digwyddiad.
Digwyddodd y lladrad tua 9 fore Mawrth, Mehefin 9 yn y ‘Lifestyle Convenience Store, ’ ffordd Pen-y-Wain, ger y gyffordd gyda ffordd Monthermer.
Daeth y lleidr i mewn i’r siop gyda chyllell yn ei law, cyn mynd y tu ôl i gownter y siop a hawlio arian gan y rheolwr. Gadawodd gydag arian o’r til cyn mynd i gyfeiriad ffordd Monthermer.
Mae’r Prif Arolygydd Paul Andrews wedi dweud heddiw "nad yw’r heddlu am oddef lladradau". “Mae ymchwilio’r achosion hyn yn flaenoriaeth i ni," meddai. "Hyd yn hyn, r'yn ni wedi llwyddo i leihau nifer achosion lladrad o 9% y flwyddyn yma,” meddai.
“Fy nghyngor i i’r un sy’n gyfrifol yn yr achos hwn yw iddo ef neu hi ddod ‘mlaen a siarad gyda’r heddlu, neu ddisgwyl cnoc ar y drws.”
Arestio bachgen
Mae’r heddlu eisoes wedi arestio bachgen 17 mlwydd oed ar chwe chyfrif o ladrad yn ardal y Rhath ac maen nhw "yr un mor benderfynol", yn ôl Paul Andrews, i ddal yr un sy’n gyfrifol am gyflawni’r lladrad diweddara’
“Roedd yr ymosodiad hwn yn un llwfr ar berchennog siop oedd yn gweithio ar ei ben ei hun. Rydym ni’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu’n adnabod y dyn ar ddelweddau’r CCTV i gysylltu gyda ni ar unwaith,” meddai.
Mae’r lleidr wedi ei ddisgrifio fel gwryw gwyn yn eu hugeiniau cynnar, o gwmpas 5.11 o daldra, tenau, gyda llygaid bychain, cul ac acen Brydeinig.Roedd yn gwisgo top hwdi gwyn gyda phatrwm nodedig du arno.
Os hoffech rannu gwybodaeth â’r heddlu cysylltwch: 029 2052 7267 neu ffoniwch crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Anfon at ffrind