Mae un o’r rhai sy’n gobeithio arwain y blaid Lafur yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn yn rhybuddio na all y blaid ddibynnu ar ei phleidlais graidd i ennill etholiadau o hyn ymlaen.
Yn yr Eisteddfod yn y Bala heddiw, mae Carwyn Jones, AC Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cwnsler Cyffredinol yn Llywodraeth y Cynulliad, yn cydnabod bod etholaethau ymylol yn y gorllewin mewn perygl o gael eu colli i’r Ceidwadwyr neu Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mae etholaethau fel Ynys Môn a De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin a Chonwy sy’n cael eu dal gan Lafur yn San Steffan eisoes wedi cael eu colli mewn etholiadau Cynulliad ac Ewropeaidd.
“Nid yw troi’n ôl tuag at ein pleidlais graidd yn opsiwn inni os ydym eisiau bod yn llwyddiannus,” meddai Mr Jones.
“Yn ogystal ag ymestyn allan i’r gorllewin, mae’n rhaid inni sicrhau ein bod ni’n apelio at bobl ar bob lefel o incwm sydd â theimlad cryf o gyfrifoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
“Mae ar y mwyafrif o bobl yng Nghymru eisiau gweld chwarae teg, a’r her i ni yw sut i adeiladu’r coalisiwn chwarae teg a fydd yn edrych ar Lafur fel ei blaid naturiol.”
Mae disgwyl y bydd Rhodri Morgan yn ymddeol fel arweinydd ym mis Medi pan fydd yn cael ei benblwydd yn 70 oed, ond nid oes unrhyw gadarnhad swyddogol o hynny hyd yma.
Anfon at ffrind