Mae stori epig am ddyn o Aberystwyth yn rhwyfo ar draws Môr Iwerydd ar fin dod i’r sgrin fawr.
Mae ‘Ocean’s 14’ yn ffilm ddogfen am 14 o ddynion – gan gynnwys Stuart Kershaw – a dorrodd record byd drwy rwyfo ar draws y cefnfor.
Hon yw ffilm ddiweddara’ Stuart Kershaw ei hun. Yn ogystal â bod yn ffan mawr o chwaraeon eithafol, mae hefyd yn ddyn camera a chyfarwyddwr ffilm.
Ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth, fe sefydlodd gwmni In The Dark Productions yn y dre a nawr mae ei ffilm o’r antur fawr ar fin cael ei dangos mewn 35 o sinemâu led led gwledydd Prydain.
Fe lwyddodd y criw i rwyfo drwy bum cylchfa amser mewn 33 diwrnod, gan ennill tystysgrif gan y Guinness Book of Records.
Bydd y ffilm yn cael ei dangos mewn 35 sinema ledled Prydain.
Rhamant
“Roedd fy nghariad i’n byw yr ochr arall i’r Iwerydd ar y pryd - felly roedd rhwyfo’r holl ffordd yno’n weithred ramantus,” meddai Stuart Kershaw.
“Roedd rhwyfo a saethu ffilm mewn cwch bychan yn sialens. Ond, ges i fy rhybuddio gan y capten o’r diwrnod cyntaf un mai rhwyfo oedd fy mhrif bwrpas ar y daith a bod fy nyletswyddau fel dyn camera yn dod yn ail.”
Pen y daith
Uchafbwynt yr antur rwyfo tair mil o filltiroedd oedd cyrraedd Barbados a chael cerdded ar dir sych am y tro cyntaf ers mis.
“Roedd cyrraedd Barbados yn wych. Roedd fy nghoesau wedi colli’u defnydd, roedd rhaid i mi gropian i fyny’r grisiau,” meddai.
“Dw i wedi teimlo’n angerddol am deithio erioed, yn arbennig teithio i lefydd anghysbell a chael antur yn y broses.”
Er nad gwneud arian oedd y nod, fe gyfaddefodd fod llwyddiant diweddar ‘Ocean’s 14’ wedi agor “drysau a chyfleoedd newydd”.
“Entrepreneuriaid”
Mae Stuart Kershaw’n gobeithio bod ei raglen ddogfen yn profi nad oes angen i gyfarwyddwyr Cymreig droi at gwmnïau cynhyrchu mawr Llundain er mwyn gwneud eu marc.
“Gallai meddylfryd entrepreneuraidd fod yn llesol iawn i’r Cymry sydd eisiau llwyddo yn y diwydiant,” meddai.
Roedd y rhaglen ddogfen yn ben llanw dwy flynedd o ffilmio ac, ar ôl iddo ef a’r cynhyrchydd, Euros Jones Evans, gwblhau’r gwaith aeth yn ôl i Brifysgol Aberystwyth i siarad gyda myfyrwyr y cyfryngau heddiw.
“Dw i’n hoffi gweld y tân yn eu llygaid nhw pan ydw i’n siarad am y diwydiant ffilm a’r posibiliadau,” meddai.
Ei her nesaf fydd rhedeg rasys marathon ar dri chyfandir gwahanol mewn cyfnod o 24 awr – gan ffilmio’r cyfan, wrth gwrs.
Anfon at ffrind