13/11/2009
Y Tigh ... ac un o westai bach gorau’r wlad
Efallai bod y nofelydd a’r beirniad llên, John Rolwands, wedi gadael rhaglen goginio ddiweddara’ S4C, ond mae ef a’i wraig, Luned, yn rhedeg gwesty sy’n enwog am safon ei fwyd, ei ddiwylliant, a’i groeso.

Mae’r Goeden Eirin ger Caernarfon wedi cael clod uchel am ei safon a’i hagwedd at yr amgylchedd a’r diwylliant Cymraeg ... ac mae’r bwyd yn dda iawn hefyd.

Ond, hyd yn hyn, Luned Rowlands fu’n enwog am goginio – flynyddoedd ar ôl iddi hi wneud yn dda iawn mewn cystadleuaeth goginio mewn papur newydd.

Dim ond yn ddiweddar y dechreuodd John Rowlands hefyd gymryd diddordeb mewn gwneud bwyd – er ei fod wedi bod yn golofnydd bwyd ers blynyddoedd i’r cylchgrawn Barn.

Dw i wastad wedi mwynhau bwyta allan ac hefyd yn reit hoff o ddarllen ac ysgrifennu adolygiadau o fwytai, ond dim ond yn ddiweddar yr ydw i wedi dechrau cymryd diddordeb go iawn mewn coginio,” meddai. “Mi benderfynais ei mentro hi ar Tigh Dudley diolch i berswâd Luned.”

Fe fu Lowri Jones yn ei holi am fwyd – a’r Goeden Eirin

Pa fath o gogydd ydych chi?

Dw i’n cyfaddef nad ydw i’n gogydd amryddawn - yn Y Goeden Eirin, dw i’n hoff o goginio prydau sawrus ond mi wna’ i adael y pwdinau i Luned! Mae coginio i westeion Y Goeden Eirin wedi bod yn hyfforddiant go iawn – ac er nad ydan ni’n cynnig bwydlen eang , ydan ni’n credu mewn defnyddio cynnyrch lleol i greu prydau arbrofol ar yr Aga, efallai o Wlad Thai, Moroco neu India.

Sut le yw’r Goeden Eirin?

Nid bwyty yn yr ystyr arferol – mae’n debycach at ginio gwadd clyd efo ffrindiau – er enghraifft, mae’r drws ffrynt yn agor i mewn i’n cegin! Ydan ni’n hoffi sgwrsio a thrafod diwylliant efo gwesteion os ydyn nhw am gymdeithasu - ac weithiau, mi wna’ i hyd yn oed dincial allweddi’r Bechstein[y piano] ar gais! Ydan ni wedi croesawu criw eclectig mor belled, o John Cale [y cerddor] i Glwb Darllen Caernarfon.

Mae Alistair Sawday a’i lyfrau taith ymhlith cefnogwyr Y Goeden Eirin – beth yw’r gyfrinach?

Ydan ni’n gobeithio ein bod wedi llwyddo cynnig blas go iawn o ddiwylliant Cymreig mewn ffordd naturiol a byw. Mae llawer o’r newyddiadurwyr cenedlaethol, er enghraifft, yn synnu pa mor fyw ydi’r iaith pan maen nhw’n dod i aros. Mi fyddan nhw’n sbio ar y celf a’r llyfrau Cymraeg yn ein cartref, yn fy nghlywed i’n siarad Cymraeg â’r ci neu’n clywed Dewi Llwyd yn siarad ar y radio yn y gegin.

Mae’r ddau ohohoch yn academwyr o fri – ydy hyn wedi bod o help o ran sefydlu Y Goeden Eirin?

Mae’n debyg i’n diddordebau gyfrannu at y naws o le - yn annhebyg iawn i westai bŵtic steilus a ffansi, damweiniol neu naturiol iawn ydi natur unrhyw ddylunio mewnol yn Y Goeden Eirin! Ond mae pobol yn ymddangos yn reit hoff o’r silffoedd llyfrau neu o gasgliad celf Luned. Mae’r llety yn adlewyrchu diwylliant Cymraeg yn sicr.

Mae si ar led bod eich tŷ bach yn waith celf ynddo’i hun.

Yn sicr, mae pobol yn reit hoff o dreulio amser yn ein lle chwech! Yn ogystal â darnau o gelf, ydan ni wedi ei ddefnyddio fel arddangosfa fach o luniau o bobol sy’n golygu rhywbeth i ni - Aung San Suu Kyi [arweinydd gwrthblaid Burma], Nelson Mandela [arwr De Affrica], Václav Havel [o’r weriniaeth Tsiec] a nifer o ffigyrau o Gymru. Mae yna wobr i bwy bynnag sy’n medru enwi pawb ar y wal – does neb wedi bod yn deilwng eto chwaith!

Ac mae eich cymwysterau gwyrdd hefyd yn creu argraff...

Mae gwarchod yr amgylchfyd yn golygu defnyddio synnwyr cyffredin yn fwy na dim – felly yn ogystal â phanelau solar, mae gynnon ni bolisi o ailgylchu a chompostio, o ddefnyddio cynnyrch organig, Masnach Deg neu eco-gyfeillgar ac r’yn ni hefyd yn medru casglu pobl o’r orsaf yn ein Toyota Prius newydd, sy’n rhedeg ar betrol a thrydan. Ond rydann ni’n ceisio cyfuno hyn oll efo egwyddorion gwarchod ein hiaith a’n diwylliant – mae’n biti yn aml bod un neu’r llall yn tueddu i syrthio wrth ymyl y ffordd ...

• Fe ddaeth enw’r Goeden Eirin o gyfrol o straeon gan y dramodydd, John Gwilym Jones. Roedd yn byw yn y Groeslon, y pentre’ nesa’ at Dolydd, ble mae’r gwesty. Roedd y dramodydd a John Rowlands yn ffrindiau mawr.

Anfon at ffrind