Cynyddu maint testun

Golwg360



Shane Williams allan o gem Lloger

Chwefror 13, 2009 09:57

Mae Shane Williams wedi gorfod tynnu allan o dîm Cymru i wynebu Lloegr yng Nghaerdydd pnawn Sadwrn ar ôl methu prawf ffitrwydd.

Anafwyd pigwrn yr asgellwr yng Nghaeredin y penwythnos diwethaf yn ystod y fuddugoliaeth o 26-13 yn erbyn yr Alban.

Bydd asgellwr y Scarlets, Mark Jones yn cymryd ei le. Ond dyw Mark Jones heb chwarae ers 8 wythnos ar ôl enyniad y coluddyn crog (appendicitis).

Pryder

Cyfaddefodd Warren Gatland, hyfforddwr Cymru, bod y diffyg gemau gan Mark Jones yn bryder ond ei fod “yn chwaraewr profiadol ac yn edrych yn dda wrth ymarfer”.

Mae Andy Powell wedi pasio ei brawf ffitrwydd, a bydd yn cymryd ei le yn rheng ôl Cymru fel rhif wyth, gyda capten Cymru, Ryan Jones hefyd yn dychwelyd wedi anaf.

Roedd oedi o 48 awr wrth enwi’r garfan gan Warren Gatland er mwyn rhoi mwy o amser i Shane Williams, Ryan Jones, Andy Powell a Gavin Henson wella o’u hanafiadau.

‘Cadw cysondeb’

“Bydd rhaid i ni chwarae yn well na phenwythnos diwethaf er mwyn ennill yn erbyn Lloegr.Mae Lloegr yn dim llawn profiad.”- Warren Gatland, Hyfforddwr Cymru.

Carfan Cymru

Lee Byrne (Gweilch); Leigh Halfpenny, Tom Shanklin, Jamie Roberts (Gleision), Mark Jones (Scarlets); Stephen Jones (Scarlets), Mike Phillips (Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision), Matthew Rees (Scarlets), Adam Jones, Ian Gough, Alun Wyn Jones, Ryan Jones (Gweilch, capten), Martyn Williams, Andy Powell (Gleision).

Eilyddion: Huw Bennett (Gweilch), John Yapp (Gleision), Luke Charteris (Dreigiau), Dafydd Jones (Scarlets), Dwayne Peel (Sale), James Hook, Andrew Bishop (Gweilch).

 

Carfan Lloegr: Delon Armitage (London Irish); Paul Sackey (Wasps), Mike Tindall (Gloucester), Riki Flutey (Wasps), Mark Cueto (Sale); Andy Goode (Brive), Harry Ellis (Leicester); Andrew Sheridan (Sale), Lee Mears (Bath), Phil Vickery (Wasps), Steve Borthwick (Saracens, capt), Nick Kennedy (London Irish), James Haskell (Wasps), Joe Worsley (Wasps), Nick Easter (Harlequins).

Eilyddion: Dylan Hartley (Northampton), Julian White (Leicester), Tom Croft (Leicester), Luke Narraway (Gloucester), Paul Hodgson (London Irish), Toby Flood (Leicester), Mathew Tait (Sale).