Mae pentwr o lyfrau am Bataginia’n cael eu cyhoeddi ar gyfer yr Eisteddfod – efallai am fod honno yn Y Bala, tref Michael D. Jones, un o’r ysbrydolwyr.
Elvey MacDonald (dde), cyn-drefnydd eisteddfodau’r Urdd, yw un o’r awduron sy’n dod o’r Wladfa ei hun ac mae’n dweud fod y diddordeb ym Mhatagonia i’w weld pan ddaeth I Gymru 41 o flynydddoedd yn ôl.
Yr hyn sy’n wahanol bellach, meddai, yw fod llawer rhagor o fynd a dod a chysylltu – a llawer rhagor yn sgrifennu am y lle.
Llwch y paith – a Chymru
Llwch, Hunangofiant Elvey MacDonald, Y Lolfa, £14.95
Fe allai’r teitl fod yn sôn am y paith, neu am eisteddfodau. Yng Nghymru, mae gan Elvey MacDonald ambell atgof digon dadleuol am ei gyfnod yn gweithio i’r Eisteddfod Genedlaethol ac wedyn Eisteddfodau’r Urdd.
Fe ddaeth y ddwy wlad at ei gilydd yn yr helynt tros nofel Gwobr Daniel Owen yn 2005, I Fyd Sydd Well, gan Sian Eirian Rees Davies, a ‘Mr Patagonia’ yn anhapus gyda’r portread o’r cewri cynnar.
Erbyn ei gyfnod ef yn tyfu i fyny ym Mhatagonia, roedd cyflwr yr iaith “yn druenus” ond fe ddaeth dathliadau canmlwyddiant 1965 ag ysbryd newydd.
“Mae pethau wedi gwella,” meddai, “Bellach, mae dyrnaid o deuluoedd yn ceisio amgu’u plant yn siaradwyr Cymraeg naturiol. Erbyn hyn mae’r bobl, a Llywodraeth y dalaith hefyd, yn cydnabod eu dyled i’r Cymry a sefydlodd y Wladfa.”
Ac, erbyn hyn, mae’r gefnogaeth sy’n dod o Gymru yn cyfrannu llawer – diolch yn rhannol,m eddai Elvey MacDonald, i’r gwleidydd o Geidwadwr, Rod Richards.
Annwyl Batagonia
Llythyrau’r Wladfa 1864-1945, Mari Emlyn, Carreg Gwalch, £9.95
Marwolaeth ei mam a sbardunodd Mari Emlyn i gasglu llythrau gan bob math o bobol ynglŷn â’r Wladfa – roedd Sian Emlyn yn Ysgrifenyddes Cymdeithas Cymru a’r Ariannin.
Ar ôl dechrau, mae Mari Emlyn yn dweud fod y llythyrau a dderbyniodd hi a’i chwaer gan bobol nad oedden nhw yn eu hadnabod ym Mhatagonia wedi ei chyffwrdd hi a’i chwaer, gan ei sbarduno i ymweld â’r wlad.
Yn ei llyfr, mae gor-wyres O.M. Edwards wedi clymu ei dau ddiddordeb – mewn llythyrau a Phatagonia – gyda chasgliad o lythyrau rhwng 1864 ac 1945 – sy’n dangos datblygiad y Wladfa a chaledi bywyd y Cymry oedd yn byw yno.
Roedd y llythyrau cynnar yn dangos y caledi roedd y Cymry yn ei wynebu am flynyddoedd, meddai. Roedd eu cariad at yr iaith yn gryf hefyd ond, wrth i’r blynyddoedd dreiglo, mae ôl y Sbaeneg i’w gweld.
Os caiff Mari Emlyn ei huchelgais a chyhoeddi ail gyfrol – o 1945 hyd heddiw – fe fydd hynny’n amlycach fyth.
Achub cam y tad
Michael D.Jones a’i Wladfa Gymreig, gol. E Wyn James a Bill Jones, £9.50
Ceisio gwneud cyfiawnder ag un o sylfaenwyr Patagonia y mae’r unig lyfr hanes yn y pentwr. Yn ôl y bardd Gwenallt, Michael D. Jones oedd y “cenedlaetholwr mwyaf ar ôl Owain Glyndŵr” ac mae Wyn James a Bill Jones yn dangos y sail dros ei farn.
Ac yntau’n Brifathro Coleg Annibynwyr y Bala, mae’r ffaith fod y llyfr yn cael ei gyhoeddi erbyn Eisteddfod y Bala yn amserol iawn. Ac er na fu Michael D.Jones ei hun erioed yn byw ym Mhatagonia ef oedd “Tad y Wladfa” yn llygad llawer.
Mae’r llyfr yn sôn am hanes sefydlu’r Wladfa, y dadleuon o blaid ac o’i herbyn a lle y Wladfa yn hanes ymfudo’r Cymry.
O’r fan a’r lle
Bywyd yn y Wladfa, gol. Cathrin Williams, Gwasg y Bwthyn, £7.95
‘Bywyd yn y Wladfa’ yw’r trydydd llyfr yn y gyfres o ddetholiadau o waith buddugol cystadleuaeth yn yr Eisteddfod am atgofion am y Wladfa.
Y golygydd yw Cathrin Williams, un o arloeswyr dysgu Cymraeg ym Mhatagonia, ac mae’r caslgiad o waith o rhwng 1992 a 2007 yn amrywaieth o straeon bywyd a gwaith, ofergoelion, hanesion yr aelwyd ac Eisteddfod y Wladfa.